News Centre

Cadwyn fwytai Lounges i agor ‘Consurio Lounge’ yng nghanol tref Caerffili

Postiwyd ar : 09 Tach 2023

Cadwyn fwytai Lounges i agor ‘Consurio Lounge’ yng nghanol tref Caerffili
Mae'r gadwyn fwytai Lounges wedi cyhoeddi bydd y bwyty newydd, ‘Consurio Lounge’, yn agor yn fuan yng nghanol tref Caerffili.
 
Bydd ‘Consurio Lounge’ yn ychwanegiad derbyniol iawn a bywiog i ganol y dref. Bydd wedi'i leoli yn yr adeilad lle roedd ‘Gatehouse’, yng Nghanolfan Siopa Cwrt y Castell, ac mae disgwyl iddo roi bywyd newydd i le a gaeodd ei ddrysau yn ddiweddar, gan arddangos cadernid a phwysigrwydd busnesau lleol.
 
Mae'r gadwyn fwytai Lounges eisoes yn gweithredu nifer o fwytai llwyddiannus yng Nghaerdydd, ac mae'r penderfyniad i ehangu i Gaerffili wedi'i groesawu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
 
Meddai Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd,
 
“Bydd ‘Consurio Lounge’ yn ychwanegiad gwych i ganol tref Caerffili. Rydyn ni'n falch iawn bod y gadwyn fwytai lwyddiannus hon wedi dewis Caerffili, gan roi lleoliad bywiog i bobl leol ac ymwelwyr ei fwynhau.
 
“Dyma adeg gadarnhaol a chyffrous i ganol y dref, gyda nifer o fusnesau newydd yn symud i Ffos Caerffili yn fuan. Byddwn ni'n parhau ein gwaith i gynorthwyo busnesau lleol a gwneud yr hyn rydyn ni'n gallu i ddenu busnesau newydd er mwyn i'n trigolion eu mwynhau.”
 
Mae ‘Consurio Lounge’ ar fin dod yn fan ymgynnull ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr, gan gynnig dewis eang o fwydydd a diodydd, ac awyrgylch cynnes a chroesawgar.
 
Mae'r gadwyn fwytai Lounges yn gasgliad o gaffis/bariau anffurfiol, lleol wedi'u lleoli ledled y Deyrnas Unedig.
 
Bydd rhagor o ddiweddariadau ynglŷn â dyddiad agor y bwyty yn cael eu rhannu yn yr wythnosau nesaf.


Ymholiadau'r Cyfryngau