News Centre

Gynghorydd CBSC, David Hardacre

Postiwyd ar : 16 Tach 2023

Gynghorydd CBSC, David Hardacre

Mae Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyhoeddi neges o gydymdeimlad ar ôl marwolaeth drist cyn Gynghorydd CBSC, David Hardacre.

Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, “Yn drist iawn bu farw David, a fu’n falch o gynrychioli Ward Cwm Darran yng Nghwm Rhymni Uchaf am 20 mlynedd. Bu farw’n dawel ar 15 Tachwedd yn 83 oed.

Cafodd David ei ethol am y tro cyntaf yn 2002, ac roedd ganddo hanes hir o gynrychioli ei gymuned fel cynghorydd a gwasanaethodd hefyd ar Gabinet y Cyngor mewn nifer o rolau.

Roedd yn rhan o lywodraeth leol am dros 35 mlynedd, gan ddechrau fel Cynghorydd Cymuned i Gyngor Dosbarth Trefol Gelligaer. Roedd yn was cyhoeddus ymroddedig ac yn hyrwyddwr ei gymuned a bydd colled fawr ar ei ôl gan bawb oedd yn ei adnabod. Mae ein meddyliau gyda’i deulu ar yr adeg drist yma.”



Ymholiadau'r Cyfryngau