News Centre

Rhodd contractwr yn helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd

Postiwyd ar : 17 Tach 2023

Rhodd contractwr yn helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd
Mae’r arbenigwr adeiladu Willmott Dixon wedi rhoi 10 gliniadur i helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd.
 
Ar hyn o bryd, mae'r contractwr yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i helpu cyflawni ei raglen adeiladu tai uchelgeisiol.
 
Bydd y grŵp Gwirfoddolwyr Cymunedol Cymru yn Rhisga yn defnyddio’r gliniaduron fel rhan o fenter ddigidol y mae’n ei chyflwyno i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol. Mae'r rhodd yn ychwanegol at 10 gliniadur a gafodd eu rhoi y llynedd gan Willmott Dixon i brosiectau cymunedol ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.
 
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud y mwyaf o’r buddsoddiad sy’n cael ei wneud drwy ein rhaglen datblygu tai i gynorthwyo ein cymunedau, fel y rhodd hon i'r grŵp Gwirfoddolwyr Cymunedol Cymru.
 
“Mae’r Cabinet wedi addo adeiladu 1,000 o gartrefi fforddiadwy carbon isel newydd dros y deng mlynedd nesaf a hefyd wedi cymeradwyo cynigion i Willmott Dixon weithio gyda ni i ddatblygu cynllun gwerth cymdeithasol. Bydd y cynllun hwn yn hanfodol i'n helpu i sicrhau ein bod ni'n parhau i ddarparu buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach i'r Fwrdeistref Sirol.”

Ychwanegodd Nicola Millard, Uwch Reolwr Gwerth Cymdeithasol yn Willmott Dixon, “Mae Willmott Dixon yn falch o gefnogi’r fenter hon, sy’n cael effaith mor gadarnhaol, ar y cyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Rydyn ni’n gwybod bod y rhai sy’n cael y gliniaduron yn cael y buddion mwyaf.”
 
 


Ymholiadau'r Cyfryngau