News Centre

Cyngor Caerffili a UK Steel Enterprise yn darparu Grant Dechrau Busnes Caerffili

Postiwyd ar : 23 Tach 2023

Cyngor Caerffili a UK Steel Enterprise yn darparu Grant Dechrau Busnes Caerffili
Mae Grant Dechrau Busnes Caerffili hyblyg yn cael ei ddarparu drwy bartneriaeth rhwng UK Steel Enterprise a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae'r grant wedi'i gynllunio i helpu trigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili i sefydlu busnes amser llawn am y tro cyntaf, sydd ddim yn gallu cael mynediad at unrhyw ffynonellau eraill o gyllid.

Mae Grant Dechrau Busnes Caerffili yn darparu cymorth ariannol i helpu busnesau newydd, cymwys i ddatblygu a thyfu.

Gall busnesau newydd ar draws pob sector busnes gael eu hystyried ar gyfer y grant, cyn belled â bod y busnes yn cael ei sefydlu ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae'n grant dewisol a gall ddarparu hyd at 50% o gostau cymwys prosiect hyd at uchafswm o £500.
Mae'r prosiect hwn wedi'i gyllido gan UK Steel Enterprise. UK Steel Enterprise Ltd (UKSE) yw is-gwmni o dan berchnogaeth lwyr Tata Steel sydd â chyfrifoldeb am helpu gydag adfywio economaidd cymunedau sydd wedi'u heffeithio gan newidiadau yn y diwydiant dur. Mae UKSE yn gweithio mewn ardaloedd dur ledled y Deyrnas Unedig yn helpu creu swyddi a chyfoeth drwy gynorthwyo mentrau bach a chanolig gyda chyllid a safleoedd.

Mae dyfarnu'r grant yn gyfan gwbl yn ôl disgresiwn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae rhagor o wybodaeth a manylion am sut i wneud cais am y grant ar gael yma.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu.


Ymholiadau'r Cyfryngau