News Centre

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn datgelu rhaglen gyda mwy o ddigwyddiadau ar gyfer 2024-25

Postiwyd ar : 14 Tach 2023

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn datgelu rhaglen gyda mwy o ddigwyddiadau ar gyfer 2024-25
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn falch iawn o gyhoeddi ei raglen ddigwyddiadau gynhwysfawr ar gyfer 2024-25, sy'n cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau difyr sydd wedi’u llunio i ddarparu rhywbeth i bawb.

Bydd y rhaglen hon yn golygu y bydd nifer o ddigwyddiadau poblogaidd yn dychwelyd y gwanwyn nesaf. Isod, rydyn ni'n edrych yn fanylach ar yr hyn y gallwn ni ei ddisgwyl o'r rhaglen hon. Mae rhai o’r uchafbwyntiau yn cynnwys:
 
Ffair y Gwanwyn Ystrad Mynach a Ffair y Gwanwyn Coed Duon – Yn cynnwys stondinau bwyd a chrefft, ynghyd ag amrywiaeth o reidiau ffair i blant – bydd y trefi’n dod yn fyw wrth i’r gwanwyn gyrraedd!
 
Gŵyl Bwyd a Barcutiaid Rhisga –  Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer pawb sy'n hoff o fwyd! Yn dod i Rhisga ym mis Medi 2024, mae hwn yn un allwch chi ddim ei golli!
 
Gweithdai Creu Llusernau Bargod – Yn y cyfnod cyn yr ŵyl, mae’r digwyddiad llawn hwyl hwn i’r teulu, sy’n RHAD AC AM DDIM, yn gyfle gwych i blant wneud llusern Nadoligaidd arbennig yng nghanol tref Bargod.
 
Pride Caerffili – Yn dilyn digwyddiad agoriadol hynod lwyddiannus y llynedd, mae Pride Caerffili yn ôl unwaith eto! Bydd y dathliad diwrnod o hyd yn cynnwys Gorymdaith Pride eiconig ac adloniant byw – wrth i’n cymuned ddod at ei gilydd i gydnabod a dathlu cyfraniadau pobl LHDTC+ yn ein cymdeithas.
 
Parti Traeth Coed Duon a Rhisga – Bydd y Parti Traeth eiconig yn dychwelyd i Goed Duon a Rhisga yn 2024. Bydd stondinau ar hyd y strydoedd, bydd bwyd a chrefftau ar werth a bydd adloniant byw yn gosod golygfa perffaith wrth i Ganol Trefi gael eu trawsnewid yn lannau moroedd. Gallwch chi ddisgwyl llawer o dywod ac adloniant!

Meddai Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd,
“Mae'r rhaglen ddigwyddiadau yn boblogaidd iawn ac yn helpu i ddod â miloedd o bobl i ganol ein trefi. Rydyn ni wedi gwneud penderfyniad bwriadol i gynyddu’r rhaglen ddigwyddiadau yn 24/25 oherwydd poblogrwydd y digwyddiadau a’n hymgyrch i wrando ar y gymuned fusnes. Roedden ni am gytuno ar raglen 2024/25 i allu cynnig y newyddion cadarnhaol hwn, ymhell ymlaen llaw”.

Cadwch y dyddiadau! Dyma'r dyddiadau allweddol y mae angen i chi eu gwybod:
 
Gwanwyn Dyddiad
Ffair y Gwanwyn Ystrad Mynach Dydd Sadwrn 23 Mawrth 2024
Ffair y Gwanwyn Coed Duon Dydd Sadwrn 13 Ebrill 2024
Gwyl Bwyd a Diod, Caerffili Dydd Sadwrn 27 Ebrill 2024
Ffair Fai Bargod  Dydd Sadwrn 4 Mai 2024
Caerffili 10C Dydd Sadwrn 12 Mai 2024
Haf Dyddiad
Parti Traeth Rhisga Dydd Sadwrn 8 Mehefin - Dydd Sul 9 Mehefin 2024
Pride Caerffili Dydd Sadwrn 15 Mehefin 2024
Parti Traeth Coed Duon Dydd Sadwrn 13 Gorffennaf 2024
Gŵyl y Caws Mawr / Gŵyl y Caws Bach Dydd Sadwrn 31 Awst – Dydd Sul 1 Medi 2024
Hydref/Gaeaf Dyddiad
Gŵyl Bwyd a Barcutiaid Rhisga   Dydd Sadwrn 14 Medi 2024
 Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Ystrad Mynach Dydd Sadwrn 16 Tachwedd 2024
Gweithdai Gwneud Llusernau Afon y Goleuni Dydd Sadwrn 16 Tachwedd, Dydd Sul 17 Tachwedd a Dydd Sadwrn 23 Tachwedd, Dydd Sul 24 Tachwedd 2024
Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Coed Duon Dydd Sadwrn 23 Tachwedd 2024
Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf a Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni ac Arddangosfa Tân Gwyllt Dydd Sadwrn 30 Tachwedd 2024
 Gweithdai Creu Llusernau Bargod Dydd Sadwrn 23 Tachwedd 2024 a Dydd Sadwrn 30 Tachwedd 2024
Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Bargod Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr 2024
2025 Dyddiad
Ffair y Gwanwyn Ystrad Mynach Dydd Sadwrn 22 Mawrth 2025
 

Mae'r rhaglen fwy hon o ddigwyddiadau nid yn unig yn darparu adloniant i ymwelwyr, ond hefyd yn cefnogi busnesau lleol drwy gynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol ein trefi. Mae’r Cyngor yn ymestyn ei werthfawrogiad i’r noddwyr, partneriaid, i bob un o’r Cynghorau Tref a’r gymuned leol am eu cymorth amhrisiadwy, sy’n gwneud y digwyddiadau hyn yn bosibl.

Cadwch y dyddiadau er mwyn bod yn rhan o'r flwyddyn anhygoel sydd i ddod! I gael rhagor o wybodaeth a diweddariadau rheolaidd am ddigwyddiadau, ewch i’n gwefan yn https://www.visitcaerphilly.com/cy/


Ymholiadau'r Cyfryngau