News Centre

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog

Postiwyd ar : 02 Tach 2023

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog ddydd Iau, 2 Tachwedd, gan gadarnhau ei ymrwymiad i gymuned y lluoedd arfog.

Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid gan y genedl bod y rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog yn cael eu trin yn deg. Mae’r Cyfamod yn addewid gwirfoddol i gynorthwyo lles, cyflogaeth ac addysg cymuned y lluoedd arfog, yn ogystal â’u teuluoedd nhw.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymuno â mwy na 10,000 o sefydliadau ar draws amrywiaeth o sectorau gan gynnwys addysg, elusennau, lletygarwch, manwerthu a gwasanaethau ariannol sydd wedi ymrwymo i ddarparu triniaeth deg i gyn-filwyr, personél sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd a’u teuluoedd nhw.

Fe ymunodd Sgwadron Maes 203 â'r Cyngor a wyth sefydliad lleol gan gynnwys; Educ8 Training, Vibrant Property Partner, Vetro Recruitment, QDL Contractors Ltd, Grassroots Suicide Prevention, Coleg y Cymoedd, Cyngor Dref Coed Duon a Cyngor Cymuned Gelligaer, i nodi'r llofnodi.

Dywedodd y Cynghorydd Theresa Heron, Eiriolwr Cyfamod Cymuned y Lluoedd Arfog Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, “Rydyn ni'n hynod falch o fod wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog. "Rydyn ni'n cydnabod y rôl bwysig mae personél y lluoedd arfog yn ei chwarae yn ein cymdeithas ac rydyn ni wedi ymrwymo i’w cynorthwyo nhw a’u teuluoedd.

“Mae'n dangos ein hymrwymiad clir i sicrhau nad yw aelodau cymuned y lluoedd arfog yn wynebu gwahaniaethu ac mae'n helpu i adeiladu eich enw da fel cyflogwr sy’n gyfeillgar i’r lluoedd.”



Ymholiadau'r Cyfryngau