News Centre

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ceisio barn ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol arfaethedig

Postiwyd ar : 01 Tach 2023

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ceisio barn ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol arfaethedig
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ceisio barn ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol  arfaethedig ar gyfer 2024-2028.
 
Mae'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft wedi'i ddatblygu i ddangos ymrwymiad y Cyngor i sicrhau bod y Cyngor yn parhau i fod yn lle cynhwysol i fyw, i weithio ac i ymweld ag e.
 
Mae Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 yn cynnwys 7 amcan cydraddoldeb sy'n amlinellu sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn bwriadu cyflawni ei ymrwymiadau cydraddoldeb, tra'n parhau i fod yn sefydliad cynhwysol nad yw'n goddef gwahaniaethu.
 
Nod yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn ar yr Amcanion Cydraddoldeb arfaethedig a amlinellwyd yn y Cynllun drafft, a nodi camau gweithredu allweddol ar gyfer cyflawni'r amcanion hyn wrth symud ymlaen.

I ddweud eich dweud, gallwch gwblhau'r arolwg ar-lein gan ddefnyddio'r ddolen hon.
 
Gellir hefyd argraffu'r arolwg a'i ddychwelyd yn y post i: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tîm Cydraddoldeb a'r Gymraeg, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed. CF82 7PG.
 
Gallwch chi hefyd ofyn am fersiwn papur o'r arolwg drwy e-bostio cydraddoldeb@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 864404 / 01443 864353. Mae copïau caled hefyd ar gael yn eich llyfrgell CBSC agosaf.

Y dyddiad cau ar gyfer yr arolwg hwn yw 1 Rhagfyr 2024.

Cyhoeddir crynodeb o’r canlyniadau ym mis Ebrill 2024, ochr yn ochr â Chynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028, yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet a’r Cyngor Llawn.


Ymholiadau'r Cyfryngau