News Centre

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Gyrfa Cymru

Postiwyd ar : 09 Tach 2023

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Gyrfa Cymru
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr Gyrfa Cymru 2023 yn y categori Hyrwyddwr Gorau'r Gymraeg yn y Gweithle

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyrraedd y rhestr fer oherwydd ei waith yn darparu cymorth gyrfaoedd i ddisgyblion mewn ysgolion lleol, gan gynnwys Mae Cyngor Caerffili wedi cyrraedd y rhestr fer oherwydd ei waith parhaus yn darparu cymorth gyrfaoedd i ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd lleol. Mae prif ffocws y gwaith wedi cynnwys cynnal gwasanaethau grwpiau blwyddyn, trafodaethau grwpiau llai, a thrafodaethau grwpiau blwyddyn gyfan mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg a Saesneg ynglŷn â gwerth sgiliau Cymraeg i gyflogwyr, cyfleoedd i siarad Cymraeg yn y gymuned, a chyfleoedd gyrfa gyda'r Cyngor.

Mae’r gwobrau hyn, y mae disgwyl mawr amdanynt, yn gyfle i Gyrfa Cymru gydnabod cyflogwyr sydd wedi gweithio gyda nhw i ddarparu profiadau gyrfaoedd sy’n effeithiol ac atyniadol i ddisgyblion yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf.

Trwy weithio'n agos gydag ysgolion, mae'r sefydliadau hyn yn cefnogi pobl ifanc i wneud cysylltiadau rhwng yr hyn y maent yn ei ddysgu yn yr ysgol a'r byd gwaith a deall y cyfleoedd sydd ar gael iddynt.

Mae’r digwyddiad eleni yn cyd-fynd â Gyrfa Cymru yn dathlu deng mlynedd fel cwmni Cymru gyfan. Mae’r gwobrau’n cael eu noddi gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething, a byddant yn cael eu cynnal ar 8 Tachwedd yn adeilad y Pierhead, sy'n eiddo i'r Senedd yng Nghaerdydd.

Eleni, mae gwobr ychwanegol i nodi'r pen-blwydd, sef ‘cyflawniad eithriadol’.

Dyma'r wyth categori ar gyfer y gwobrau:

Cyflogwr Mwyaf Cefnogol ar gyfer Profiad Gwaith
Cymorth Mwyaf Arloesol i Ysgolion
Busnes Bach Mwyaf Cefnogol
Cyfraniad Personol Eithriadol
Cydberthynas Barhaus Orau ag Ysgol
Newydd-ddyfodiad Gorau
Hyrwyddwr Gorau'r Gymraeg yn y Gweithle
Gwobr Cyflawniad Eithriadol – Gwobr Deng Mlynedd

Dywedodd y Cynghorydd Eluned Stenner, “Mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein staff i ddarparu cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg ac i bobl sydd eisiau dysgu Cymraeg. Mae hwn yn gyflawniad gwych a hoffwn i longyfarch pawb dan sylw.”Dywedodd Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru: “Llongyfarchiadau i Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am gyrraedd rhestr fer Gwobr Partneriaid Gwerthfawr 2023.

“Mae’r digwyddiad hwn yn caniatáu i ni ddiolch i fusnesau am ddarparu profiadau ystyrlon i ddisgyblion lleol a’u grymuso â gwybodaeth sy'n gysylltiedig â gwaith a fydd yn eu helpu i lunio eu dyfodol.

“Mae gweithio gydag ysgolion i ddarparu cymorth gyrfaoedd gwerthfawr yn helpu i ysbrydoli ac ysgogi cenhedlaeth iau, sef gweithlu’r dyfodol yng Nghymru.

“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i’r seremoni wobrwyo arbennig yn adeilad y Pierhead eleni ac yn dymuno pob lwc i bawb.”


Ymholiadau'r Cyfryngau