Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Tachwedd 2023
Cyngor Caerffili yn dathlu 10 mlynedd ers iddi ddod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i arddangos Sgoriau
News Centre
Cyngor Caerffili yn dathlu 10 mlynedd ers iddi ddod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i arddangos Sgoriau Hylendid Bwyd yng Nghymru
Postiwyd ar : 27 Tach 2023
Mae hi’n 10 mlynedd ers i Gymru arwain y ffordd fel y wlad gyntaf yn y DU i’w gwneud yn ofynnol yn ôl y gyfraith i arddangos sgoriau hylendid bwyd. Ers mis Tachwedd 2013, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau yng Nghymru arddangos eu sticer sgôr hylendid bwyd mewn man amlwg – fel y drws blaen, y fynedfa neu ffenestr.
Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wedi sicrhau buddion parhaol i ddefnyddwyr ac i fusnesau fel ei gilydd. Yn wir, mae’r Cynllun yn cael ei ddathlu fel un o gyflawniadau mwyaf arwyddocaol y wlad yn yr 21ain ganrif o ran iechyd cyhoeddus.
Ddegawd yn ddiweddarach, mae’r Cynllun wedi codi safonau mewn busnesau bwyd yn awdurdod lleol Caerffili gyda dros 794 o fusnesau’n arddangos sgôr o 5 a 1,290 o fusnesau â sgôr o 3 neu uwch.
Dywedodd y Cynghorydd Philippa Leonard, Aelod Cabinet dros Gynllunio a Diogelu'r Cyhoedd “Mae’r sticeri du a gwyrdd trawiadol sy’n cael eu harddangos mewn bwytai, caffis, archfarchnadoedd ac ar-lein yn rhoi’r sicrwydd sydd ei angen ar bobl bod busnesau yn awdurdod lleol Caerffili yn cymryd hylendid a safonau bwyd o ddifrif.
“Mae’r sticeri hyn yn ffordd syml a thryloyw o arddangos canlyniadau’r arolygiad hylendid a gynhaliwyd gan ein swyddogion. Mae’r Cynllun yn rhoi hyder i ddefnyddwyr bod bwyd yn cael ei baratoi a’i weini mewn ffordd lân a hylan, a bod y busnes yn bodloni’r gofynion deddfwriaethol ar gyfer hylendid bwyd.”
Mae’r Cynllun yn rhoi grym i bobl wneud dewisiadau gwybodus ynghylch ble i brynu a bwyta bwyd bob dydd. Mae arddangos y sgoriau yn cynnig manteision eraill hefyd, ac yn annog busnesau bwyd i wella eu safonau hylendid. Gall pob busnes bwyd ennill y sgôr uchaf o ‘5 – da iawn’ drwy wneud yr hyn sy’n ofynnol yn ôl cyfraith bwyd. Cofiwch! Mae sgôr hylendid da yn gadarnhaol i fusnesau – gan gynnig mantais gystadleuol i’r rhai sydd â’r sgôr hylendid uchaf.
Ni ddylid diystyru effaith y cynllun. Mae’r Cynllun gorfodol wedi arwain at wella safonau hylendid mewn busnesau bwyd, gyda 97% o fusnesau yng Nghymru bellach yn arddangos sgôr o ‘3’ neu uwch. Mae ymchwil yn dangos bod busnesau sydd â sgôr uwch yn llai tebygol o fod yn gyfrifol am achosion o salwch a gludir gan fwyd.
Dywedodd Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru “Rydym yn falch o gynnal y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Mae awdurdodau lleol yn hanfodol i lwyddiant y Cynllun. Wrth ymgysylltu’n rheolaidd â busnesau bwyd, maent wedi chwarae rhan allweddol wrth godi safonau hylendid i’r fath lefelau heddiw. Mae’r Cynllun yn caniatáu i bobl bleidleisio â’u traed neu drwy glicio botwm a dewis y busnesau hynny sy’n cymryd hylendid bwyd o ddifrif.”
Cofiwch holi am y Sgôr Hylendid Bwyd, edrych am y sticer, neu wirio ar-lein cyn prynu bwyd:
https://ratings.food.gov.uk/cy
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Rhybudd i drigolion Bargod am alwyr diwahoddiad yn cynnig ail-chwistrellu patios
Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon wedi’i hagor yn swyddogol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Teyrngedau i'r cyn Faer
Cwpl o Drelyn yn cael eu dedfrydu am droseddau lles anifeiliaid a bridio cŵn yn anghyfreithlon
Trawsnewid bywydau trwy brosiect Allweddi Caerffili
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y