Mae trigolion wedi cael eu hannog i roi eu barn ar ba wasanaethau y dylai Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili eu blaenoriaethu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, fel rhan o raglen ymgysylltu bellgyrhaeddol y Cyngor, ‘Sgwrs Caerffili’.
Drwy’r 'Sgwrs Caerffili' parhaus dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r Cyngor wedi bod yn awyddus i nodi pa wasanaethau’r Cyngor sydd bwysicaf i'w gymunedau. Yn eu tro, mae trigolion wedi nodi'r meysydd y maen nhw’n credu y dylai cael eu blaenoriaethu.
Mae'r safbwyntiau hyn wedi helpu'r Cyngor i flaenoriaethu'r pethau mae’n gallu eu cyflawni. Mae barn trigolion wedi helpu i:
Barhau i ganolbwyntio ymdrechion ar y materion y dywedodd trigolion oedd yn effeithio fwyaf ar ansawdd eu bywyd – fel baw cŵn, sbwriel a gordyfiant/chwyn.
Llunio rhaglen o 10 ‘adolygiad corfforaethol’ y Cyngor cyfan sy’n ceisio sicrhau bod y Cyngor mor effeithiol ag y bo modd.
Sicrhau bod y gwasanaethau y mae'r Cyngor yn eu darparu yn unol â'r hyn sydd ei angen fwyaf ar drigolion a'u teuluoedd
Fodd bynnag, mae'r sgwrs barhaus hon yn bwysicach nag. Fel pob cyngor yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig, dim ond cyllideb gyfyngedig sydd gan y Cyngor ac mae’n wynebu bwlch o £35 miliwn yng nghyllideb y flwyddyn nesaf yn unig.
Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd y Cyngor, “Mae’n anodd gwerthfawrogi maint yr her sy’n ein hwynebu, ond rydyn ni’n ffodus i fod mewn sefyllfa gref i wynebu’r heriau hyn yn uniongyrchol. Mae gan y Cyngor gronfeydd wrth gefn iach lle mae modd defnyddio cyfran o’r rhain pe bai ‘diwrnod gwlyb’.
“Er mwyn i ni allu amddiffyn y pethau sydd eu hangen ac sy’n cael eu gwerthfawrogi fwyaf, mae angen i drigolion ddweud wrthyon ni os ydyn ni’n parhau i fod ar y trywydd iawn – a dweud wrthon ni beth sy’n wirioneddol bwysig iddyn nhw a’u teuluoedd. Bydd yr hyn y maen nhw’n ei ddweud wrthon ni yn bwysig iawn, wrth i ni wneud cynlluniau a gwneud penderfyniadau ynghylch datblygu blaenoriaethau ein cyngor ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf a ble rydyn ni’n gwario ein harian”.
Mae nifer o ffyrdd y gall trigolion ddweud eu dweud:
Dyddiad: |
Lleoliad: |
Amser: |
Dydd Gwener 18 Tachwedd |
Llyfrgell Caerffili |
11.00am-1.00pm |
Dydd Llun 21 Tachwedd |
Llyfrgell Nelson |
10.00am-12.00pm |
Dydd Mawrth 22 Tachwedd |
Llyfrgell Coed Duon |
11.00am-1.00pm |
Dydd Mawrth 22 Tachwedd |
Llyfrgell Bargod |
3.30pm-5.30pm |
Dydd Mercher 23 Tachwedd |
Llyfrgell Rhymni
wedi’i ddilyn gan
Adfywiad Dodrefn Rhymni |
10.00am-12.00pm
12.00pm-2.00pm |
Dydd Iau 24 Tachwedd |
Llyfrgell Ystrad Mynach |
11.00am-1.00pm |
Dydd Iau 24 Tachwedd |
Llyfrgell Rhisga |
3.00pm-5.00pm |
Dydd Llun 28 Tachwedd |
Llyfrgell Trecelyn |
10.00am-12.00pm |
Dydd Mercher 30 Tachwedd |
Llyfrgell Caerffili (digwyddiad costau byw) |
9.30am-12.30pm |
Mynychu sesiwn ar-lein a chael sgwrs â'r tîm yn un o'r canlynol:
Dyddiad: |
Amser: |
Dydd Llun 28 Tachwedd |
2.00pm-3.00pm |
Dydd Mercher 30 Tachwedd |
10.00am-11.00am |
Dydd Iau 1 Rhagfyr |
5.00pm-6.00pm |
|
|
I fynychu un o’r sesiynau hyn, anfonwch e-bost at ymgysylltucyhoeddus@caerffili.gov.uk gyda’r dyddiad dewisol, a bydd dolen i fynychu’r sesiwn ar-lein yn cael ei darparu.
Dod i gwrdd â’r tîm rhwng 11am a 3pm yn:
- Ffair Fwyd a Chrefft y Gaeaf, Ystrad Mynach (dydd Sadwrn 19 Tachwedd)
- Ffair Fwyd a Chrefft y Gaeaf, Coed Duon (dydd Sadwrn 26 Tachwedd) a
- Marchnad Nadolig Caerffili (dydd Sadwrn 3 Rhagfyr)
Mae copïau caled o'r arolwg hefyd ar gael i'w casglu o holl lyfrgelloedd Bwrdeistref Sirol Caerffili, a'u dychwelyd ar ôl eu llenwi.
Dweud eich dweud erbyn dydd Mawrth 6 Rhagfyr i sicrhau bod adborth yn cael ei gynnwys yng nghynlluniau’r Cyngor. Bydd cyfleoedd ymgysylltu pellach yn parhau yn y Flwyddyn Newydd a thu hwnt.
Gofynnir i drigolion sydd ag unrhyw ofynion penodol megis mynediad, dolen glyw, sydd angen cyfleusterau cyfieithu neu sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn unrhyw un o’r digwyddiadau gysylltu â’r tîm yn ymgysylltucyhoeddus@caerffili.gov.uk neu drwy ffonio 07933 174352.
I gael cymorth wrth lenwi'r arolwg neu i ofyn am fformatau eraill, cysylltwch â'r tîm hefyd: ymgysylltucyhoeddus@caerffili.gov.uk neu 07933 174352.