News Centre

Dathlu llwyddiant ym myd chwaraeon yn noson wobrwyo Chwaraeon Caerffili

Postiwyd ar : 17 Tach 2022

Dathlu llwyddiant ym myd chwaraeon yn noson wobrwyo Chwaraeon Caerffili
Mae'r seremoni flynyddol, Gwobrau Chwaraeon Caerffili, unwaith eto wedi bod yn noson ysbrydoledig drwy ddathlu llwyddiannau pobl y byd chwaraeon ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Cynhaliwyd y seremoni yng ngwesty Bryn Meadows, Maes-y-cwmwr, a chafodd gwirfoddolwyr, hyfforddwyr a chlybiau wobrau am eu cyfraniadau rhagorol i fyd chwaraeon yn y Fwrdeistref Sirol.

Dechreuodd y noson gydag araith bwerus gan gyflwynydd teledu a radio'r BBC, Jason Mohammad. Roedd gwesteion arbennig – Tanni Grey-Thompson a'r Olympiad, Lauren Price – hefyd yn bresennol.

Ar ddechrau'r seremoni wobrwyo, cyhoeddwyd enillwyr gwirfoddolwr ifanc y flwyddyn a gwirfoddolwr y flwyddyn. Enillodd William Phillips y wobr ‘Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn – Sefydliad Aaron Ramsey’, am ei ymroddiad i Glwb Criced Coed Duon. Hefyd, enillodd Emma Chalk y wobr ‘Gwirfoddolwr y Flwyddyn – Chwaraeon Caerffili’.

Cipiodd Jonathan Morgan y wobr ‘Hyfforddwr Cynhwysol y Flwyddyn – Cwpan Coffa Phylyp Butler’, gan gydnabod ei gyfraniad rhagorol i ddarparu cyfleoedd ar gyfer chwaraewyr anabl a chwaraewyr nad ydyn nhw'n anabl i ymgysylltu â thenis. Hefyd, enillodd Jonathan Morgan y wobr ‘Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn – Clwb Rygbi'r Dreigiau’. Yn dilyn hyn, cydnabuwyd ymdrechion tri gwirfoddolwr ar y Cynllun Gwirfoddoli Chwaraeon Anabledd am eu hymroddiad i'n Canolfannau Hamdden. Cafodd Chris Cox, Sam Preece a Tomos Hooper i gyd wobrau am eu hymdrechion.

Roedd y wobr ‘Clwb y Flwyddyn – Langstone Safety and Workwear’ yn gategori anodd ei benderfynu, ond, o drwch blewyn, dewiswyd Clwb Tenis Caerffili fel enillwyr teilwng am eu heffaith yn y gymuned leol gyda bron i 400 o aelodau.

Anrhydeddwyd tri o drigolion gyda'r wobr ‘Cyflawniad Oes i Chwaraeon – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili’, sef Claire Chetland, Gareth Davis a David Gardiner. Gwobr olaf y noson oedd yr un yr oedd pawb yn edrych ymlaen yn eiddgar ati, sef y wobr ‘Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn – Chwaraeon Cymru’. Ar y rhestr fer roedd Gavin Gwynne, Gerwyn Price, Natasha Harding a Lauren Price – a bwriwyd cyfanswm o 4,126 o bleidleisiau i gadarnhau'r enillydd. Dyfarnwyd y wobr i Lauren Price ar ôl ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo yn ddiweddar a throi’n broffesiynol eleni.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Hamdden, “Mae Gwobrau Chwaraeon Caerffili yn parhau i ysbrydoli a gwobrwyo cenedlaethau o waith caled, amynedd a chreadigrwydd ymhlith hyfforddwyr sy'n parhau i wneud eu gorau glas i ddarparu cyfleoedd ar gyfer tyfu chwaraeon ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Roeddwn i'n falch iawn o weld bod gwaith caled gwirfoddolwyr, hyfforddwyr a'r gwahanol dimau dan sylw yn cael eu gwobrwyo. Roeddwn i'n edmygu'r ffordd broffesiynol y cafodd y digwyddiad ei drefnu a'i redeg gan ein tîm mewnol – gwnaethon nhw waith gwych. Yn olaf, hoffwn ddiolch i'r holl fusnesau lleol sy'n helpu i gefnogi'r digwyddiad hwn. Heb gefnogaeth busnesau lleol, ni fyddem ni'n gallu cynnal y digwyddiad hwn sy'n ysbrydoli ac yn cydnabod ymdrechion athletwyr Caerffili.”

Rhestr lawn o'r enillwyr:
Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn – Aaron Ramsey: William Phillips
Gwirfoddolwr y Flwyddyn – Chwaraeon Caerffili: Emma Chalk
Hyfforddwr Cynhwysol y Flwyddyn – Cwpan Coffa Phylyp Butler: Jonathan Morgan
Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn – Clwb Rygbi'r Dreigiau: Jonathan Morgan
Clwb y Flwyddyn – Langstone Safety and Workwear: Clwb Tenis Caerffili
Cyflawniad Oes i Chwaraeon – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili: Claire Chetland, Gareth Davis a David Gardiner
Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn – Chwaraeon Cymru: Lauren Price

Cliciwch yma i weld 


Ymholiadau'r Cyfryngau