News Centre

Helpwch ni i lunio Cynllun Llesiant Gwent

Postiwyd ar : 08 Tach 2022

Helpwch ni i lunio Cynllun Llesiant Gwent
Cynllun Llesiant Gwent

Mae gwasanaethau cyhoeddus ledled Gwent yn datblygu Cynllun Llesiant a fydd yn arwain y gwaith rydym ni’n ei wneud gyda’n gilydd am y pum mlynedd nesaf. Nod y cynllun hwn yw gwella llesiant ar draws y rhanbarth ac mae’n ceisio mynd i’r afael â’r heriau mawr na all ein sefydliadau eu goresgyn ar eu pennau eu hunain.

Eich teuluoedd, eich pentrefi a’ch trefi a’ch anwyliaid sy’n cael eu heffeithio gan yr hyn sy’n cael ei wneud. Rydyn ni’n gwybod na allwn ni ymgymryd â phopeth, felly rydyn ni am sicrhau ein hunain ein bod ni’n ymgymryd â’r pethau sydd wir o bwys i chi. Rydym ni felly’n croesawu barn a syniadau pawb wrth i ni ysgrifennu'r cynllun, i'w gyhoeddi ym mis Mai 2023.

Mae’r Cynllun Llesiant drafft i’w weld yn y ddolen yma: https://dweudeichdweud.torfaen.gov.uk

Hoffem eich gwahodd i fynychu un o’r sesiynau wyneb yn wyneb neu rithwir yr ydym yn eu cynnal, i ymgysylltu â chi ar Gynllun Drafft Llesiant Gwent. Cewch weld y dyddiadau, yr amseroedd a’r lleoliadau isod:

  • Sesiwn 1 - 10:00am tan 12:00pm ar 14 Tachwedd 2022 yn Libanus Lifestyles, Libanus Road, Coed Duon, NP12 1EQ
  • Sesiwn 2 - 6:00pm tan 8:00pm ar 17 Tachwedd 2022 yng Nghanolfan Wybodaeth ac Adnoddau y Rhosyn Gwyn, Tref Elliot, Tredegar Newydd, NP24 6EF
  • Sesiwn 3 - 1:00pm tan 3:00pm ar 23 Tachwedd 2022 yng Nghanolfan Gymunedol y Glowyr Caerffili, Watford Road, Caerffili, CF83 1BJ
  • Sesiwn 4 - 10:00am tan 12:00pm ar 25 Tachwedd 2022 - Arlein (trwy Microsoft Teams)
  • Sesiwn 5 - 6:00pm tan 8:00pm ar 6 Rhagfyr 2022 - Arlein (trwy Microsoft Teams)

Os hoffech archebu lle ar un o’r sesiynau hyn, cliciwch ar y ddolen hon https://bit.ly/3U8DTH6
Fel arall gallwch ffonio 01443 864409 neu afon e-bost at BGCGwent@caerffili.gov.uk. Bydd rhagor o fanylion a chyfarwyddiadau ar gyfer ymuno yn cael eu hanfon unwaith y byddwn wedi derbyn eich cofrestriad.



Ymholiadau'r Cyfryngau