News Centre

Gofyn i denantiaid Cyngor Caerffili ddiweddaru manylion cyswllt

Postiwyd ar : 22 Tach 2022

Gofyn i denantiaid Cyngor Caerffili ddiweddaru manylion cyswllt
Mae gwasanaeth tai Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gofyn i’w denantiaid sicrhau bod y manylion cyswllt sydd ganddo ar eu cyfer yn gyfredol.

Daw hyn fel rhan o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) sydd, o’i rhoi ar waith ar 1 Rhagfyr 2022, yn golygu y bydd yr holl denantiaethau presennol yn cael eu trosi’n ‘gontractau meddiannaeth’.

Nid oes angen i denantiaid y Cyngor wneud dim; bydd eu tenantiaeth bresennol yn troi yn awtomatig i'r contract newydd. Fodd bynnag, mae angen i denantiaid sicrhau bod eu manylion cyswllt yn gyfredol fel bod modd i'r Cyngor anfon copïau o'u contract newydd atyn nhw.

Mae llythyrau'n cael eu hanfon at bob tenant, ynghyd â ffurflen iddyn nhw ei llenwi a'i dychwelyd. Fel arall, mae modd i denantiaid lenwi ffurflen gryno ar wefan y Cyngor.

Mae modd i denantiaid sydd â chwestiynau, neu sydd angen cymorth, ffonio 01443 811434 / 33 / 32 neu anfon e-bost at RhentuCartrefi@caerffili.gov.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau