News Centre

Grwpiau ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn elwa ar gyllid gwerth dros £27k

Postiwyd ar : 29 Tach 2022

 Grwpiau ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn elwa ar gyllid gwerth dros £27k
Rhwng mis Mehefin a mis Medi eleni, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo grantiau gwerth cyfanswm o £27,748 ar gyfer grwpiau gwirfoddol.

Roedd cymorth i amrywiaeth eang o grwpiau cymunedol ar ffurf £5,330 o gyllid drwy feini prawf cyffredinol cyllideb y Sector Gwirfoddol, gan gynnwys grantiau i Gymdeithas Rhandiroedd Tredomen, Valley Daffodils, Pwyllgor Lles Henoed Llanbradach, Clwb Cerdd Cwm Rhymni a Chymdeithas Hanes Trelyn. Roedd cymorth ariannol i sawl unigolyn hefyd drwy’r gronfa i’w cynorthwyo nhw i gynrychioli Cymru gartref a thramor.

Cafodd cyllid gwerth £22,418 ei gymeradwyo hefyd gan Gronfa Deddf Eglwys Cymru i gynorthwyo gyda gwelliannau yn Eglwys y Bedyddwyr Bethel ym Mhen-yr-heol, Eglwys y Bedyddwyr Oakdale, Eglwys Sant Tudur ym Mynyddislwyn ac Eglwys Efengylaidd Bethal yn Nelson. Cafodd y cyllid ei ddefnyddio hefyd i ddarparu offer newydd ar gyfer New Beginnings (Dechrau'n Deg), Rhandiroedd Rhiw Syr Dafydd a Chlwb Camerâu Cymoedd y Gorllewin.

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet y Cyngor gyda chyfrifoldeb am Gymunedau, “Mae’n wych gweld amrywiaeth mor eang o grwpiau gwirfoddol yn weithredol yn y Fwrdeistref Sirol. Mae grwpiau fel y rhain yn chwarae rhan allweddol wrth gynorthwyo cymunedau lleol a helpu i fynd i'r afael â materion fel arwahanrwydd cymdeithasol; rydyn ni'n falch o gynnig ein cymorth iddyn nhw.”


Ymholiadau'r Cyfryngau