News Centre

Man chwarae newydd yn dod yn ei flaen

Postiwyd ar : 04 Tach 2021

Man chwarae newydd yn dod yn ei flaen

Mae man chwarae newydd i blant yn cael ei greu ym Mhontllan-fraith fel rhan o gynlluniau ar gyfer datblygiad tai newydd mawr yn yr ardal.

Bydd y cyfleuster newydd yn cymryd lle'r man chwarae presennol, sydd ar safle hen swyddfeydd y Cyngor ym Mhontllan-fraith. Mae angen symud yr hen fan chwarae gan fod y safle i gael ei ddatblygu cyn bo hir i fod yn ddatblygiad tai newydd mawr o'r enw Pentref Gerddi'r Siartwyr.

Mae gwaith ar y gweill ar y man chwarae newydd ac mae'r Cyngor hefyd yn gobeithio ailddefnyddio peth o'r offer o'r hen fan chwarae ar gyfer darnau sbâr ac atgyweirio mewn safleoedd eraill ledled yr ardal.

Mae'r man chwarae newydd gwerth £100,000 wedi'i leoli nepell o'r man chwarae presennol, a bydd ganddo gyfleusterau diogel, modern i blant lleol eu mwynhau.

Croesawodd Aelod Cabinet y Cyngor, y Cynghorydd Nigel George, ddechrau'r gwaith, “Mae'n wych gweld cyfleusterau chwarae newydd yn cael eu darparu er budd y gymuned leol. Rydyn ni'n ymwybodol bod rhai pryderon wedi'u codi ynghylch agosrwydd y safle i'r ffordd gyfagos, ond mae'r holl asesiadau priodol ynghylch addasrwydd y lleoliad wedi'u hystyried fel rhan o'r broses gynllunio.”

“Mae'r cynllun yn cynnwys ffensys cwbl gaeedig ac rydyn ni hefyd yn bwriadu datblygu cynllun plannu ochr yn ochr â'r safle,” ychwanegodd.

 



Ymholiadau'r Cyfryngau