Lleisiwch eich barn ar blismona yng Nghaerffili
Postiwyd ar : 04 Tach 2021
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, yn gofyn i drigolion leisio eu barn ar blismona yng Nghaerffili.
Comisiynwyr yr heddlu a throsedd sy’n gyfrifol am ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am ddarparu gwasanaethau plismona lleol, pennu cyllideb flynyddol yr heddlu, a chomisiynu gwasanaethau i gefnogi blaenoriaethau plismona.
Hoffai’r Comisiynydd wybod barn trigolion ar nifer o faterion, a hoffai wybod pa mor fodlon ydyn nhw gyda phlismona lleol.
I rannu eich barn, ewch i: https://budget22-23.questionpro.com