News Centre

Groes-faen Terrace, Bargod – Diweddariad 18/11/21

Postiwyd ar : 18 Tach 2021

Groes-faen Terrace, Bargod – Diweddariad 18/11/21

Ers 18 Hydref 2021, mae'r gwaith wedi symud ymlaen yn dda yn Groes-faen Terrace.

Wrth i'r gwaith symud ymlaen, cafodd ei nodi bod pibelli ar gyfer cludo ceblau ffibr optig BT mewn cyflwr gwael, ac fe wnaeth BT atal y gwaith er mwyn datblygu strategaeth i gynnal/dargyfeirio'r asedau yn ystod y gwaith cloddio dwfn.

Mae'r diweddariad hwn i breswylwyr er mwyn rhoi rhybudd cynnar ei bod hi'n bosibl y gallai'r gwaith annisgwyl hwn gan BT ohirio dyddiad cwblhau'r cynllun ym mis Ionawr, sef y peth olaf roedden ni ei eisiau. Er mwyn lliniaru hyn, mae ein swyddogion ni wrthi'n cysylltu â phob parti i leihau unrhyw oedi trwy archwilio posibiliadau ar gyfer cyflymu'r rhaglen a/neu ddod â rhagor o adnoddau'r contractiwr i'r safle.

Ein prif nod ni, bellach, yw cwblhau'r gwaith erbyn 23 Rhagfyr 2021. Os bydd rhagor o broblemau annisgwyl yn gohirio'r gwaith ymhellach, mae gennym ni gynlluniau ar waith i agor un lôn gan ddefnyddio mesurau rheoli traffig, rhwng 23 Rhagfyr 2021 a 4 Ionawr 2022, er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl yn ystod cyfnod y Nadolig. Yna, byddwn ni'n cau'r ffordd yn llwyr eto, a rhoi gwyriad ar waith, o 4 Ionawr 2022 ymlaen er mwyn cwblhau unrhyw waith sy'n weddill.

Rydyn ni'n dal i geisio deall effaith gwaith BT yn llawn ac rydyn ni'n aros am raglenni adeiladu diwygiedig.

Byddwn ni'n ymdrechu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gwaith, a byddwn ni'n rhoi gwybod i chi am y dyddiadau cwblhau diwygiedig ar ôl cytuno ar oblygiadau'r rhaglen.
 
Rydyn ni'n ymddiheuro am yr oedi annisgwyl hwn ac yn gwerthfawrogi eich amynedd parhaus wrth i ni gwblhau'r gwaith hanfodol hwn.



Ymholiadau'r Cyfryngau