News Centre

Y Cyngor yn cytuno i roi'r cerdyn coch i faw cŵn ar gaeau chwaraeon

Postiwyd ar : 15 Tach 2021

Y Cyngor yn cytuno i roi'r cerdyn coch i faw cŵn ar gaeau chwaraeon

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo ymestyn y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (PSPO) cyfredol i gynnwys gwahardd pob ci o gaeau chwaraeon wedi'u marcio sy'n eiddo i'r Cyngor.

Ers cyflwyno'r Gorchymyn ym mis Hydref 2017, ymchwiliwyd i dros 2,136 o gwynion am faw cŵn. Mae 64 o Hysbysiadau Cosb Benodedig wedi'u rhoi oherwydd baeddu neu am fethu â chario bagiau i godi baw cŵn. Cafwyd 28 erlyniad hefyd yn erbyn y rhai a wrthododd dalu'r ddirwy.

Cynhaliwyd ymgynghoriad 10 wythnos  hyd gyda thrigolion a rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys Heddlu Gwent, Dogs Trust a'r Kennel Club yn gynharach eleni. Roedd 85% o'r ymatebwyr yn cytuno â'r cyfyngiadau cyfredol a chytunodd 54% â'r cynnig i ymestyn y gorchymyn i wahardd cŵn rhag caeau chwaraeon wedi'u marcio.

Y prif reswm a roddwyd dros gefnogi'r cynnig oedd sicrhau amgylchedd diogel a glân i blant ac oedolion ymarfer corff ac annog perchnogaeth gyfrifol o gŵn. Amlygodd clybiau chwaraeon hefyd pa mor aml y mae gemau'n cael eu gohirio neu eu hatal i ddelio â baw cŵn ar y cae.

Bydd y Gorchymyn diwygiedig yn cael ei orfodi gan swyddogion Gorfodi a Wardeiniaid Diogelwch Cymunedol a gyflogir gan y Cyngor a bydd mewn grym trwy'r flwyddyn ac nid yw'n benodol i dymhorau chwaraeon.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet dros Wastraff, Diogelwch y Cyhoedd a Strydoedd, “Mae'r gorchymyn ar hyn o bryd yn caniatáu i gŵn faeddu unrhyw le mewn man agored, ar yr amod bod eu perchennog neu gerddwr yn clirio ar eu hôl.

“O ganlyniad, mae gennych chi sefyllfa lle mae'n rhaid i glybiau chwaraeon ac eraill godi baw cŵn cyn y gallant ddefnyddio caeau.

“Mae hyn yn annerbyniol a pham rydym ni wedi cymeradwyo ymestyn y Gorchymyn i gynnwys eithrio cŵn o gaeau chwaraeon wedi'u marcio.”

Mae rhagor o wybodaeth am y Gorchymyn ar gael ar wefan y Cyngor. www.caerffili.gov.uk



Ymholiadau'r Cyfryngau