News Centre

WEDI'I CHANSLO – Marchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Ystrad Mynach (Dydd Sadwrn 27 Tachwedd)

Postiwyd ar : 26 Tach 2021

WEDI'I CHANSLO – Marchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Ystrad Mynach (Dydd Sadwrn 27 Tachwedd)
Ystrad Mynach Winter Food and Craft Market

Yn anffodus, mae'r rhybudd tywydd melyn presennol ar gyfer gwyntoedd cryfion ddydd Sadwrn yn golygu mai'r unig ddewis yw canslo'r digwyddiad oherwydd pryderon am ddiogelwch.

Mae terfyn cyflymder gwynt uchaf yn berthnasol yn achos stondinau'r farchnad ac, yn ôl y rhagolygon, mae disgwyl iddo fesur ddwywaith hyn. Rydyn ni wedi penderfynu mor hwyr â phosibl ac wedi ystyried opsiynau eraill i fwrw ymlaen â'r digwyddiad, ond, er mawr ofid, bu'n rhaid i ni wneud penderfyniad terfynol.

Mae gwybodaeth am ddigwyddiadau Nadoligaidd eraill sydd ar y gweill ar gael yma – www.caerffili.gov.uk/digwyddiadau



Ymholiadau'r Cyfryngau