News Centre

Marchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Ystrad Mynach

Postiwyd ar : 22 Tach 2021

Marchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Ystrad Mynach
Mae'n tynnu at y Nadolig yng nghanol tref Ystrad Mynach wrth iddi baratoi ar gyfer Marchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf.
 
A hithau'n cynnal yr ail farchnad mewn cyfres o Farchnadoedd Bwyd a Chrefft y Gaeaf ledled y Fwrdeistref Sirol, mae canol tref Ystrad Mynach ar fin cael ei thrawsnewid yn wledd aeafol gyda thua 25 o stondinau bwyd a chrefft. Bydd macarŵns Ffrengig, cynnyrch Pembrokeshire Chilli Farm, siytni a chyffeithiau, llyfrau i blant, danteithion i gŵn, cwrw, seidr a dewis o wirodydd ar werth – i enwi dim ond rhai o'r cynhyrchion blasus a hyfryd a fydd ar gael!
 
Bydd y diwrnod allan Nadoligaidd i'r teulu hefyd yn cynnwys detholiad o reidiau ffair hwyl i blant a rhaglen lawn o adloniant theatr stryd o'r safon uchaf.
 
Bydd y Farchnad, sy'n cael ei chynnal ddydd Sadwrn 27 Tachwedd, yn gyfle perffaith i ymwelwyr siopa'n lleol y Nadolig hwn. Mae gan ganol tref Ystrad Mynach ddewis o siopau annibynnol sy'n llawn syniadau ar gyfer anrhegion trawiadol, ac mae hefyd nifer o siopau'r stryd fawr, caffis a bariau.
 
Meddai'r Cynghorydd Eluned Stenner, Aelod Cabinet dros Berfformiad, yr Economi a Menter, “Rydyn ni'n llawn cyffro o allu cynnal Marchnadoedd Bwyd a Chrefft y Gaeaf yng nghanol pedair tref ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Mae'r Marchnadoedd yn gyfle perffaith i ymwelwyr ‘ddewis lleol’ a chefnogi'r stryd fawr leol y Nadolig hwn.”
 
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Bedwlwyn Road ac Oakfield Street, lle bydd y ffyrdd ar gau rhwng 9pm nos Wener 26 Tachwedd a 9pm nos Sadwrn 27 Tachwedd.
 
Bydd y digwyddiadau'n cael eu cynnal rhwng 9am a 5pm ar y dyddiadau canlynol:
Dydd Sadwrn 27 Tachwedd – Bedwlwyn Road ac Oakfield Street, Ystrad Mynach
Dydd Sadwrn 4 Rhagfyr – Cardiff Road, Twyn Road, Castle Street a maes parcio'r Twyn, Caerffili
Dydd Sadwrn 11 Rhagfyr – Y Stryd Fawr, Coed Duon


Ymholiadau'r Cyfryngau