News Centre

Llwyddiant i'r Farchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf gyntaf

Postiwyd ar : 24 Tach 2021

Llwyddiant i'r Farchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf gyntaf
Mae'r cyntaf yn y gyfres o Farchnadoedd Bwyd a Chrefft y Gaeaf wedi profi'n llwyddiannus gyda’r nifer uchaf o ymwelwyr ers 2014.
 
Trawsnewidiwyd Canol Tref Bargod i edrych yn Nadoligaidd dros ben y penwythnos hwn, gyda thua 20 o stondinau bwyd a chrefft, detholiad o reidiau ffair hwyl i blant ynghyd â rhaglen llawn dop o adloniant theatr stryd o'r safon uchaf.
 
Denodd y digwyddiad dros 5,500 o ymwelwyr i Ganol Tref Bargod - gyda’r nifer uchaf o ymwelwyr a gofnodwyd ers 2014 a'r ail uchaf erioed. 
 
Dywedodd Cyng. Eluned Stenner, Aelod Cabinet dros Berfformiad, yr Economi a Menter, “Gyda’r Nadolig bellach ddim ond wythnosau i ffwrdd, mae’r Farchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf yn gyfle perffaith i siopwyr godi anrhegion unigryw wrth gefnogi eu stryd fawr leol.” 
 
Hon oedd y gyntaf o bedair Marchnad sy’n cael eu cynnal ledled y Fwrdeistref.  Mae'r Marchnadoedd sy'n weddill yn cynnwys:
Dydd Sadwrn 27 Tachwedd - Bedwlwyn Road a Oakfield Street, Ystrad Mynach
Dydd Sadwrn 4 Rhagfyr - Caerdydd, Twyn Road, Castell a Maes Parcio Twyn, Caerffili
Dydd Sadwrn 11 Rhagfyr - Y Stryd Fawr, Coed Duon.
 
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www:visitcaerphilly.com/digwyddiadau, ffoniwch Ganolfan Ymwelwyr Caerffili ar 029 2088 0011 neu e-bostiwch digwyddiadau@caerffili.gov.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau