News Centre

Diweddariad Heol Shingrig – Trafnidiaeth Cymru 15.11.2021

Postiwyd ar : 17 Tach 2021

Diweddariad Heol Shingrig – Trafnidiaeth Cymru 15.11.2021
Trosbont Heol Shingrig

Mae asesiad strwythurol ar gyfer trosbont Heol Shingrig (TBD 13m 58ch) wedi'i gynnal, a nodwyd rhai meysydd y mae angen ymchwilio ymhellach iddynt.

Ar hyn o bryd, rydyn ni'n edrych ar gryfhau mesurau sydd â'r nod o roi'r gorau i'r trefniadau rheoli traffig presennol.

Bydd angen i ni gwblhau gwaith ymchwilio pellach i sicrhau bod ein cynnig yn ymarferol.

Ar hyn o bryd, mae rheoli traffig yn atal cerbydau rhag llwytho trawst y parapet (sef maes pryder penodol).

Rydyn ni'n cydnabod pwysigrwydd y strwythur hwn i'r gymuned leol, fodd bynnag, mae angen i ni gwblhau'r holl waith ymchwilio cyn darparu datrysiad diffiniol.

Rydyn ni'n parhau i drafod ein dull gyda'r partneriaid priodol, i gynnwys awdurdodau lleol a'r gwasanaethau brys.

Wrth i ni ymchwilio ymhellach i'r opsiynau gorau i wella ymarferoldeb y strwythur, byddwn ni'n parhau i flaenoriaethu diogelwch cwsmeriaid uwchben (ac o dan) y strwythur.

Rydyn ni wedi cael gwybod bod rhai defnyddwyr y ffordd yn “mynd trwy'r” goleuadau traffig, sy'n bryder amlwg.

Mae'r trefniadau rheoli traffig presennol o'r pwys mwyaf i ddiogelwch y strwythur, ac rydyn ni'n gofyn i bawb aros yn amyneddgar a chadw at y mesurau rheoli traffig sydd ar waith wrth i ni barhau â'n hymchwiliadau.

Ystyriwch unrhyw oedi posib wrth gynllunio'ch taith.

Mae'r strwythur hwn yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Trafnidiaeth Cymru a'i bartneriaid ac rydyn ni'n gwerthfawrogi eich amynedd a'ch dealltwriaeth yn y mater hwn.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, mae croeso i chi gysylltu â'n tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid: Customer.Relations@tfwrail.wales



Ymholiadau'r Cyfryngau