News Centre

Diogelu - Busnes pawb yw e

Postiwyd ar : 17 Tach 2021

Diogelu - Busnes pawb yw e

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn atgoffa pawb mai cyfrifoldeb pawb yw diogelu plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed.

Yr wythnos hon yw Wythnos Genedlaethol Diogelu (15 - 19 Tachwedd) a gall pob un ohonom chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod unrhyw bryderon ynghylch diogelu yn cael eu hadrodd i'r asiantaethau priodol.

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol a Thai, “Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i greu cymunedau gofalgar i sicrhau bod trigolion yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu gwarchod. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i sicrhau bod plant ac oedolion yn cael eu trin â pharch ac yn cael eu hamddiffyn rhag eraill a allai eu cam-drin.”

Os oes gennych unrhyw bryderon am blentyn, person ifanc neu oedolyn sy'n agored i niwed, gallwch adrodd am eich pryderon i'r canlynol:

Oedolion: 0808 100 2500 / GCChOedolion@caerffili.gov.uk

Plant: 0808 100 1727 / cyswlltacatgyfeirio@caerffili.gov.uk



Ymholiadau'r Cyfryngau