News Centre

Clerc Ysgol Gynradd yn derbyn Gwobr Staff Ysgol Wythnos Gwrth-Fwlio Cymru

Postiwyd ar : 25 Tach 2021

Clerc Ysgol Gynradd yn derbyn Gwobr Staff Ysgol Wythnos Gwrth-Fwlio Cymru
Mae Lisa Williams, clerc ysgol yn Ysgol Gynradd Glyn-Gaer wedi derbyn Gwobr Staff Ysgol Wythnos Gwrth-Fwlio Cymru.
 
Cydlynir Wythnos Gwrth-fwlio yng Nghymru a Lloegr gan y Gynghrair Gwrth-Fwlio ac fe’i cynhelir rhwng 15-19 Tachwedd 2021 a thema eleni oedd ‘One Kind Word’.  Dewiswyd y thema hon oherwydd bod yr unigedd a brofir yn ystod y pandemig wedi tanlinellu taw wrth wneud pethau bach rydym yn gallu chwalu rhwystrau a bywiogi bywydau'r bobl o'n cwmpas.
 
Cynhaliwyd yr Wythnos Gwrth-fwlio hon y Wobr Staff Ysgol Cymru gyntaf erioed mewn partneriaeth â ‘BulliesOut’.  Gallai disgyblion enwebu athrawon a staff ysgolion yng Nghymru sydd wedi mynd y tu hwnt i'w dyletswyddau i atal ac ymateb i fwlio ac i godi ymwybyddiaeth o fwlio yn yr ysgol.
 
Derbyniodd Ms Williams enwebiad gan Molly May, Llysgennad Gwrth-fwlio Ysgol Gynradd Glyn-Gaer; yn ei henwebiad, ysgrifennodd Molly:
 
“Mae Ms Williams yn garedig ac yn gyfeillgar ac mae bob amser yn sicrhau bod y plant yn garedig â'i gilydd.  Mae hi'n fodel rôl dda iawn ac yn dangos i ni sut i fod yn garedig ac yn ddoniol.  Os ydym yn drist neu'n unig neu'n poeni, bydd hi’n sicrhau bod ni’n iawn ac yn rhoi gwybod i'n rhieni.  Mae hi'n gwneud i ni wenu pan rydyn ni'n drist ac mae hi'n ein helpu ni i wneud ffrindiau gyda phlant eraill. ”
 
Bydd Ms Williams yn derbyn tlws wedi’i engrafu, tystysgrif mewn ffrâm ac arhosiad dros nos gyda brecwast Cymreig llawn a defnydd o’r sba yng Ngwesty a Sba 5* St David’s ym Mae Caerdydd.
 
Dywedodd Beverly Pearce, Pennaeth Ysgol Gynradd Glyn-Gaer, “Mae'r holl ddisgyblion a staff wrth eu boddau â Ms Williams; mae'r wobr yn haeddiannol iawn fel y mae'r gydnabyddiaeth oherwydd ei bod yn mynd y tu hwnt i'w rôl fel clerc ysgol."
 
Ychwanegodd y Cynghorydd Ross Whiting, Aelod Cabinet dros Ddysgu, “Rwy’n falch iawn bod gwaith Ms Williams yn erbyn bwlio wedi’i gydnabod gyda’r wobr wych hon; adlewyrchir eich ymdrechion beunyddiol yn enwebiad twymgalon Molly May. Hoffem ni yng Nghyngor Caerffili ddiolch i chi am yr effaith rydych chi wedi'i chael ar ddisgyblion ifanc yn Ysgol Gynradd Glyn-Gaer."


Ymholiadau'r Cyfryngau