News Centre

Rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad tai blaenllaw Pontllan-fraith

Postiwyd ar : 05 Tach 2021

Rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad tai blaenllaw Pontllan-fraith
Mae caniatâd cynllunio wedi cael ei roi ar gyfer datblygiad tai blaenllaw ym Mhontllan-fraith, a fydd yn darparu cartrefi fforddiadwy mawr eu hangen i'r ardal yn y dyfodol.

Cafodd datblygiad Pentref Gerddi'r Siartwyr ei gymeradwyo yn ystod cyfarfod o bell Pwyllgor Cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a gafodd ei gynnal ddydd Mercher 3 Tachwedd.

Mae Pentref Gerddi'r Siartwyr yn gydweithrediad cyffrous rhwng y Cyngor a Pobl Group. Bydd yn arwain at ddatblygiad deniadol ar safle hen swyddfeydd y Cyngor – Tŷ Pontllan-fraith – a fydd yn cynnwys hyd at 125 o gartrefi, gyda thua 83 o'r rhain (sef dwy ran o dair o'r datblygiad cyfan) yn dai fforddiadwy.

Bydd y datblygiad yn dilyn y cysyniad ‘pentref gardd’, gyda chartrefi yn y dull oesol celfyddyd a chrefft, wedi'u dylunio i safonau gofod gwell a'u hadeiladu o amgylch tirwedd o goed stryd, lleiniau glas a mannau gwyrdd agored.

Meddai'r Cynghorydd Lisa Phipps, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Mae angen cynyddol am dai fforddiadwy yn y Fwrdeistref Sirol, ac mae'r Cyngor wedi ymrwymo i fynd ati i ateb y galw hwn."

“Bydd y datblygiad blaenllaw hwn yn darparu cartrefi o ansawdd uchel y mae mawr eu hangen mewn lleoliad gwych, gan gynnig dewis o opsiynau tai i bobl leol.”

Meddai Ellis Cunliffe, Rheolwr Prosiectau, Pobl Group, “Rydyn ni'n falch iawn o gael caniatâd cynllunio ac yn falch o gydweithio â Chyngor Caerffili ar y cynllun blaenllaw hwn. Ein gweledigaeth ni yw creu pentref gardd modern gyda gwir ymdeimlad o le a chymuned, gan ddefnyddio egwyddorion dylunio da a thrwy wella'r seilwaith gwyrdd presennol.

“Yn Pobl, creu lleoedd sydd wrth wraidd yr hyn rydyn ni'n ei wneud, a bydd yr egwyddorion hyn yn cael eu hadlewyrchu ym Mhentref Gerddi'r Siartwyr. Bydd y cynllun yn cynnig cyfuniad o opsiynau tai, gan gynnwys cartrefi fforddiadwy, cartrefi rhent cymdeithasol a chartrefi rhanberchnogaeth, yn ogystal â chartrefi i'w prynu'n gyfan gwbl. Rydyn ni hefyd wedi cynnwys nodweddion draenio trefol cynaliadwy yn y dyluniad, gan gynyddu nifer y mannau gwyrdd a mannau chwarae naturiolaidd.”


Ymholiadau'r Cyfryngau