News Centre

Mae'n tynnu at y Nadolig yng nghanol tref Bargod

Postiwyd ar : 15 Tach 2021

Mae'n tynnu at y Nadolig yng nghanol tref Bargod

Mae'n tynnu at y Nadolig yng nghanol tref Bargod wrth iddi baratoi ar gyfer Marchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf.

A hithau'n cynnal y farchnad gyntaf mewn cyfres o Farchnadoedd Bwyd a Chrefft y Gaeaf ledled y Fwrdeistref Sirol, mae canol tref Bargod ar fin cael ei thrawsnewid yn wledd aeafol gyda thua 20 o stondinau bwyd a chrefft. Bydd seidr, gellygwin, fodca, jin, cacennau, losin, gemwaith a chynhyrchion baddon House of Wax ar werth – i enwi dim ond rhai o'r cynhyrchion blasus a hyfryd a fydd ar gael!

Bydd y diwrnod allan Nadoligaidd i'r teulu hefyd yn cynnwys detholiad o reidiau ffair hwyl i blant a rhaglen lawn o adloniant theatr stryd o'r safon uchaf.

Bydd y Farchnad, sy'n cael ei chynnal ddydd Sadwrn 20 Tachwedd, yn gyfle perffaith i ymwelwyr siopa'n lleol. Mae gan ganol tref Bargod ddewis o siopau annibynnol sy'n llawn syniadau ar gyfer anrhegion trawiadol, ac mae hefyd nifer o siopau'r stryd fawr, caffis a bariau.

Meddai'r Cynghorydd Eluned Stenner, Aelod Cabinet dros Berfformiad, yr Economi a Menter, “Rydyn ni'n llawn cyffro ynghylch y Farchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf gyntaf. Wrth i bethau ddechrau mynd yn ôl i'r arferol ar ôl 18 mis heriol, mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn dal i siopa'n lleol a chefnogi'r stryd fawr leol.”

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Lowry Plaza, Hanbury Square a Hanbury Road, rhwng y gyffordd â Wood Street a West Street, lle bydd y ffyrdd ar gau rhwng 9pm nos Wener 19 Tachwedd a 9pm nos Sadwrn 20 Tachwedd.

Bydd marchnadoedd yn cael eu cynnal ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili ar:

  • Dydd Sadwrn 20 Tachwedd – Lowry Plaza, Hanbury Square a Hanbury Road, Bargod
  • Dydd Sadwrn 27 Tachwedd – Bedwlwyn Road ac Oakfield Street, Ystrad Mynach
  • Dydd Sadwrn 4 Rhagfyr – Cardiff Road, Twyn Road, Castle Street a maes parcio'r Twyn, Caerffili
  • Dydd Sadwrn 11 Rhagfyr – Y Stryd Fawr, Coed Duon 

Am ragor o wybodaeth am unrhyw un o'r digwyddiadau hyn, ewch i www.visitcaerphilly.com/cy/events, ffonio Canolfan Croeso Caerffili ar 029 2088 0011, neu e-bostio digwyddiadau@caerffili.gov.uk



Ymholiadau'r Cyfryngau