Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Tachwedd 2021
Ailddechrau dosbarthiadau wyneb yn wyneb Dawns ar gyfer Parkinson’s
News Centre
Ailddechrau dosbarthiadau wyneb yn wyneb Dawns ar gyfer Parkinson’s
Postiwyd ar : 25 Tach 2021
Mae dosbarthiadau Dawns ar gyfer Parkinson’s yn ddosbarthiadau hwyliog ac anffurfiol a gynhelir gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) as English National Ballet (ENB), sydd wedi'u profi i ddatblygu hyder a chryfder, gan leddfu dros dro symptomau bob dydd i rai cyfranogwyr.
Yn ystod y pandemig, addasodd CDCCymru ac ENB y dosbarth er mwyn gallu ei ddarparu ar-lein a thrwy weithio gyda Cymunedau Digidol Cymru, cafwyd cefnogaeth i roi’r hyder a’r sgiliau i gyfranogwyr gymryd rhan mewn sesiynau ar-lein.
Nawr, mae CDCCymru ac ENB yn ailgyflwyno dosbarthiadau wyneb yn wyneb, gan gynnig y cyfle i gyfranogwyr gymryd rhan mewn hybiau amrywiol ledled Cymru, gan gynnwys Sefydliad y Glowyr Coed-duon ar foreau Mawrth a'r Tŷ Dawns, Bae Caerdydd ar brynhawniau Iau. Gweithredir yr holl ddosbarthiadau yn dymhorol ac fe’u rhestrir ar wefan CDCCymru
www.ndcwales.co.uk/cy
Yng Nghymru, amcangyfrifir bod oddeutu 6,000 o bobl yn dioddef o Parkinson's – gyda'r rhan fwyaf yn hŷn na 50 oed. Nod y dosbarthiadau yw gwella symudedd a lleferydd unigolion sy’n dioddef o Parkinson’s, drwy ymarferion symud a lleisiol i gyfeiliant cerddoriaeth fyw. Nid oes gan y rhan fwyaf o bobl sy’n ymuno unrhyw brofiad o ddawnsio, ac nid oes angen profiad o gwbl arnoch i fwynhau'r dosbarth ac i elwa arno.
”Mae rhywbeth arbennig ynghylch y dosbarthiadau Dawns ar gyfer Parkinson’s na ellir ei ddyblygu yn llwyr ar-lein. Er bod symudiad yn ganolog i’r dosbarth, mae mwynhau cwpan o de a chwrdd â phobl sy’n deall yr un rhwystrau corfforol a chymdeithasol â chi hefyd yn rhan allweddol ohono.”
Guy O’Donnell, Cynhyrchydd Dysgu a Chyfranogi CDCCymru.
Dechreuwyd cynnal dosbarth Dawns ar gyfer Parkinson’s CDCCymru yn 2015 fel hwb cysylltiedig â rhaglen Dance for Parkinson's English National Ballet.
Os hoffech ragor o wybodaeth ac os hoffech gofrestru i'r rhaglen fel cyfranogwr neu wirfoddolwr, cysylltwch â Guy O'Donnell, Cynhyrchydd Dysgu a Chyfranogi - guy@ndcwales.co.uk neu ffoniwch 029 2063 5600.
Cefnogir Dawns ar gyfer Parkinson’s gan y Moondance Foundation, Cronfa Gymunedol y Loteri Cenedlaethol, Western Power Distribution a Celfyddydau a Busnes Cymru.
Rydym yn parhau i lynu wrth Ganllawiau Coronafeirws Llywodraeth Cymru ac mae gennym fesurau llym ar waith i sicrhau diogelwch ein tîm a phawb sy’n ymweld â’r Tŷ Dawns.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili poblogaidd yn denu miloedd o ymwelwyr i'r dref
Cyhoeddi cau ffyrdd ar gyfer digwyddiad 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows
Grant CBS Caerffili yn helpu busnes Caerffili i ehangu
Dros 120 o wirfoddolwyr wedi plannu coed yng Nghoetiroedd Wyllie a Pharc Cwm Darran
Rhybudd i drigolion Bargod am alwyr diwahoddiad yn cynnig ail-chwistrellu patios
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y