News Centre

Y Cyngor yn galw ar y gymuned i helpu i fynd i'r afael â sbwriel

Postiwyd ar : 17 Tach 2021

Y Cyngor yn galw ar y gymuned i helpu i fynd i'r afael â sbwriel
Mae gwaith glanhau cymunedol wedi'i drefnu yng Nghwmfelin-fach yn dilyn llwyddiant diweddar ym Mharc Lansbury.

Bydd yn cael ei gynnal ddydd Llun 22 Tachwedd, gyda gwirfoddolwyr yn gweithio ochr yn ochr â'r Tîm Glanhau Cymunedol i lanhau arglawdd coetir a lleiniau ymyl ffordd Commercial Road, Cwmfelin-fach, sy'n fannau problemus o ran sbwriel.

Daw'r cynlluniau yn dilyn y llwyddiant diweddar ym Mharc Lansbury, lle roedd o aelodau o'r cyhoedd yn gwirfoddoli a lle cafodd 30 o fagiau o sbwriel. 

Meddai'r Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet dros Wastraff, Diogelwch y Cyhoedd a Strydoedd, “Rydyn ni'n Fwrdeistref Sirol hardd gyda mannau gwyrdd gwobrwyol, ond, yn aml, rydyn ni'n cael ein siomi gan y rhai sy'n taflu sbwriel. Rwy'n falch iawn o weld y gymuned yn tynnu at ei gilydd, ynghyd â chymorth y Tîm Glanhau Cymunedol, i fynd i'r afael â'r mater hwn gyda'i gilydd.”

Bydd gwirfoddolwyr yn cyfarfod ger Eglwys St Theodore, Cwmfelin-fach, am 10:30 fore Llun 22 Tachwedd a bydd yr holl offer yn cael eu darparu. 


Ymholiadau'r Cyfryngau