News Centre

Strategaeth Masnacheiddio a Buddsoddi i gael ei hymestyn am 12 mis

Postiwyd ar : 17 Tach 2021

Strategaeth Masnacheiddio a Buddsoddi i gael ei hymestyn am 12 mis
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo estyniad 12 mis i'r Strategaeth Masnacheiddio a Buddsoddi, i adeiladu ar y llwyddiannau hyd yma.

Wedi'i mabwysiadu'n wreiddiol ym mis Rhagfyr 2020, nod y Strategaeth Masnacheiddio a Buddsoddi oedd trawsnewid Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn sefydliad sy'n meddwl yn fasnachol ac mae wedi gweld cynnydd da trwy gydol y flwyddyn. Mae cyflawniadau hyd yma yn cynnwys Cyrchfan Caerffili, sydd wedi helpu lleoliadau lleol i weithio tuag at eu cynllun busnes trwy strategaethau fel: helpu i greu cynllun 5 mlynedd a darparu hyfforddiant masnachol a marchnata.

Mae cyflawniadau eraill yn cynnwys Sesiynau Hyfforddi Peilot sy'n anelu at ddarparu hyfforddiant ac ymwybyddiaeth sgiliau masnachol.

Er gwaethaf y llwyddiannau, mae rhai pwyntiau gweithredu wedi cael eu hoedi oherwydd yr ymateb parhaus i COVID-19 ac felly mae aelodau'r cabinet wedi pleidleisio i'r Cynllun gael ei ymestyn am 12 mis arall, er mwyn i'r ymdrechion barhau.

Meddai'r Cynghorydd Eluned Stenner, Aelod Cabinet dros Berfformiad, yr Economi a Menter: “Mae llawer iawn o waith wedi'i wneud i gefnogi'r Strategaeth Masnacheiddio a Buddsoddi er gwaethaf yr heriau a ddaeth yn sgil yr ymateb i COVID-19 ac mae meddyliau eisoes yn troi at gam nesaf y Strategaeth a fydd yn canolbwyntio mwy ar fframwaith gwneud penderfyniadau a hyfforddiant staff ychwanegol.”


Ymholiadau'r Cyfryngau