News Centre

Buddsoddiad mawr Cyngor Caerffili i gysylltu pobl a lleoedd

Postiwyd ar : 29 Tach 2021

Buddsoddiad mawr Cyngor Caerffili i gysylltu pobl a lleoedd
Mae Cyngor Caerffili wedi buddsoddi'n sylweddol dros y 4 blynedd diwethaf mewn trawsnewid llwybrau ym mhob rhan o'r sir, gwella mynediad i'r cyhoedd a thrafnidiaeth gyhoeddus a chyflwyno seilwaith i hyrwyddo teithio llesol mewn ymdrech i gysylltu pobl a lleoedd nawr ac yn y dyfodol.
 
Mae'r rhaglen Llunio Lleoedd wedi hoelio buddsoddiad syfrdanol gwerth £500m mewn ardaloedd ledled y sir ac mae'r seilwaith teithio wedi bod yn rhan allweddol yn hynny o beth, yn sgil cyflawni prosiectau graddfa fawr fel cylchfan Pwll-y-Pant; mannau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus mewn lleoliadau allweddol a gwell llwybrau teithio llesol ar gyfer teithiau cyfleustod.
 
Dywedodd y Cyng. Jamie Pritchard, yr Aelod Cabinet dros Isadeiledd ac Eiddo, "Rydym yn awdurdod blaengar ac yn chwilio am ffyrdd o arloesi a gwella seilwaith yn gyson. Mae gwella trafnidiaeth gyhoeddus a hyrwyddo teithio cynaliadwy wrth wraidd yr hyn a wnawn ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid a Trafnidiaeth Cymru i gyflawni Rhaglen Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd. Ac rydym yn parhau i gryfhau ein partneriaeth â Llywodraeth Cymru drwy ddatblygu'r gorsafoedd trenau a'r cyfleusterau parcio a theithio sy'n bodoli er mwyn paratoi ar gyfer system Metro De Cymru y mae cymaint o edrych ymlaen ato a fydd yn trawsnewid y ffordd rydym yn teithio ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
 
Aeth yn ei flaen, "Fel awdurdod lleol, rydym yn parhau i fod mor ymrwymedig ag erioed i gysylltu pobl a chysylltu lleoedd ym mhob rhan o'r Fwrdeistref Sirol."
 
Bydd gofyn i breswylwyr chwarae rhan hollbwysig wrth helpu i lunio'r cynigion, drwy ddynodi beth sydd ar goll er mwyn sicrhau bod y cyngor yn targedu ei fuddsoddiad lle mae'r angen mwyaf. Bydd manylion am ffyrdd i'r gymuned gymryd rhan yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol agos.
 
Am ragor o wybodaeth am y buddsoddiad yn eich ardal chi, ewch i www.caerphillyplaceshaping.co.uk/cy/
 


Ymholiadau'r Cyfryngau