News Centre

Cyngor Caerffili yn buddsoddi'n sylweddol mewn tai

Postiwyd ar : 15 Tach 2021

Cyngor Caerffili yn buddsoddi'n sylweddol mewn tai
Dros yr 8 mlynedd diwethaf, mae tai cyngor yng Nghaerffili wedi cael eu trawsnewid fel rhan o raglen Safon Ansawdd Tai Cymru, gan sicrhau y gall yr awdurdod ddarparu cartrefi diogel a chynnes sydd wedi'u rheoli'n dda mewn cymunedau gwych. 

Mae trawsnewid tai ac adeiladu eiddo newydd yn rhan bwysig o raglen Llunio Lleoedd y cyngor, sef glasbrint uchelgeisiol i ganolbwyntio gwerth £500m o fuddsoddiad ledled y fwrdeistref sirol. 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor Cyng. Philippa Marsden, “Fel awdurdod lleol, rydym mor ymrwymedig ag erioed i ddarparu tai o'r ansawdd uchaf y mae ein preswylwyr yn eu haeddu. Rydym wedi cynllunio buddsoddiad ystyriol ledled y sir i ddiwallu anghenion preswylwyr o bob oed, gan adeiladu tai cyngor newydd; adnewyddu eiddo presennol, gwella llety tai gwarchod a gwella mynediad mewn cartrefi.

Ychwanegodd, “Rydym hefyd wedi gwario £10.6m ar gyflawni gwelliannau amgylcheddol a nodwyd gan denantiaid a phreswylwyr. Mae 82 o gymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol wedi cael y cyfle i nodi prosiectau maent yn teimlo y byddent yn gwella diogelwch eu cymuned a'u gwneud yn fwy atyniadol. Hyd yma, mae dros 300 o brosiectau wedi cael eu cymeradwyo gan gynnwys parciau sglefrio newydd, cyfleusterau a pharciau chwarae gwell, campfeydd gwyrdd, mannau parcio ychwanegol, atebion draenio, mesurau diogelwch, goleuadau stryd, digwyddiadau glanhau ac ardaloedd gemau aml-ddefnydd.”

Gofynnir i breswylwyr chwarae rôl hanfodol wrth helpu i lunio'r cynigion, drwy nodi darnau coll y jig-so i sicrhau bod y cyngor yn targedu ei fuddsoddiad lle mae ei angen fwyaf. Bydd manylion am ffyrdd i'r gymuned gymryd rhan yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol agos.

Am ragor o wybodaeth am y buddsoddiad yn eich ardal, ewch i www.caerphillyplaceshaping.co.uk/cy/


Ymholiadau'r Cyfryngau