News Centre

Cyngor Caerffili yn buddsoddi'n sylweddol mewn addysg

Postiwyd ar : 01 Tach 2021

Cyngor Caerffili yn buddsoddi'n sylweddol mewn addysg
Mae swm syfrdanol o £100 miliwn wedi cael ei fuddsoddi mewn ysgolion a'r seilwaith addysg ledled y fwrdeistref sirol fel rhan o raglen uchelgeisiol Llunio Lleoedd y Cyngor.
 
Lansiwyd ymgyrch newydd i dynnu sylw at rai o'r buddsoddiadau sylweddol sydd wedi cael eu gwneud ledled y fwrdeistref sirol – o ddatblygiadau ar raddfa fawr Ysgolion yr 21ain Ganrif i waith uwchraddio ar raddfa lai a chynlluniau gwella, ynghyd â darpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg.
 
Mae un elfen allweddol  o'r rhaglen Llunio Lleoedd yn canolbwyntio ar fuddsoddiad lleol ystyrlon sy'n ystyried anghenion y gymuned ac yn anelu at wneud gwahaniaeth go iawn. Mae'r we-dudalen bwrpasol yn cynnig trosolwg o'r buddsoddiad er mwyn rhannu'r cefndir â thrigolion a'u galluogi i ddeall yn well ble a phryd y cafodd yr arian ei wario.
 
Dywedodd y Cynghorydd Ross Whiting, Aelod o'r Cabinet dros Addysg a Hamdden, “Mae'r buddsoddiad sydd eisoes wedi cael ei wneud mewn addysg yn brawf o'n hymrwymiad i gefnogi ein trigolion ifanc i wella, cyflawni a chael eu hysbrydoli yn ystod eu taith addysgol. Mae'r rhaglen Llunio Lleoedd eisoes wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i'n cymunedau, a megis dechrau y mae'r gwaith. Nod ymgyrch Llunio Lleoedd yw dangos i'n trigolion ble mae'r arian wedi cael ei fuddsoddi er mwyn i ni allu gweithio gyda'n gilydd i nodi bylchau a chynllunio ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol. Mae'n gyfnod cyffrous i drigolion lunio'r dyfodol ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod.”
 
Ychwanegodd, “Mae codi safonau addysg yn flaenoriaeth strategol allweddol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – a gyda'ch help chi, gallwn sicrhau dyfodol disglair i blant a phobl ifanc y Fwrdeistref Sirol.”
 
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.caerphillyplaceshaping.co.uk/cy/


Ymholiadau'r Cyfryngau