News Centre

Grwpiau cymunedol Caerffili yn elwa ar grantiau gwerth dros £10,000

Postiwyd ar : 29 Tach 2021

Grwpiau cymunedol Caerffili yn elwa ar grantiau gwerth dros £10,000
Fe wnaeth grwpiau cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili elwa ar grantiau gwerth £10,633 rhwng mis Gorffennaf a mis Medi eleni.

Fe wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili weinyddu'r grantiau hyn trwy ei gyllideb Grantiau'r Sector Gwirfoddol a chynllun Cronfa Deddf Eglwys Cymru. Cafodd diweddariad am y gwariant hwn ei roi i Banel Grantiau i'r Sector Gwirfoddol y Cyngor yn ystod cyfarfod o bell yn ddiweddar.

Ymhlith y grantiau a gafodd eu dyrannu trwy Ddyfarniadau Meini Prawf Cyffredinol y Cyngor roedd cymorth i amrywiaeth o grwpiau cymunedol, gan gynnwys Eglwys y Bedyddwyr Penuel, Cymdeithas Theatr Gerdd Coed Duon a Chymdeithas Rhandiroedd Tredomen.

Fe wnaeth Cronfa Deddf Eglwys Cymru ddarparu £5,000 o gyllid i alluogi Cyfeillion Parc Eco Cefn Fforest a Phengam i brynu unedau lles a chabanau storio newydd. Cafodd Cymdeithas Rhandiroedd Pontygwindy grant gwerth £4,743 trwy'r gronfa i'w helpu i brynu offer newydd, siediau a thwneli polythen.

Meddai'r Cynghorydd Eluned Stenner, Aelod Cabinet y Cyngor sydd â chyfrifoldeb am Adfywio, “Rydyn ni'n cydnabod y rôl amhrisiadwy y mae grwpiau gwirfoddol yn ei chwarae yn ein cymunedau lleol; hyd yn oed yn fwy, felly, yn ystod y pandemig. Mae'n gadarnhaol iawn gweld amrywiaeth o brosiectau yn dod ymlaen fel ein bod ni wedi gallu cynnig cymorth ariannol iddyn nhw, a gobeithio y bydd y cyllid ychwanegol hwn yn caniatáu iddyn nhw barhau i ffynnu.”


Ymholiadau'r Cyfryngau