News Centre

Y Cabinet yn cymeradwyo cynllun i atal digartrefedd

Postiwyd ar : 10 Tach 2021

Y Cabinet yn cymeradwyo cynllun i atal digartrefedd
Heddiw (dydd Mercher 11 Tachwedd), mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo cynllun sy'n nodi ei flaenoriaethau i atal digartrefedd.

Mae'r cynllun yn cydnabod, ers dechrau pandemig COVID-19 ym mis Mawrth 2020, fod tîm Atebion Tai y Cyngor wedi bod yn gweithio ar fodel sy'n cael ei arwain gan argyfwng i ddelio â'r cynnydd yn y galwadau ar y tîm.

Mae aelodau'r Cabinet bellach wedi cymeradwyo Cynllun Prosiect Digartrefedd a fydd yn galluogi'r gwasanaeth i adolygu ac ailffocysu ei flaenoriaethau. Mae'r ddogfen sydd wedi cael ei chymeradwyo gan y Cabinet yn gynllun dros dro a bydd yn cael ei ddisodli yn 2022 gan Strategaeth Digartrefedd Cyngor Caerffili a'r Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym.

Amcanion allweddol y cynllun yw darparu gwasanaeth rhagweithiol a hygyrch, drwy wella cyswllt a chyfathrebu, ffocws ar atal er mwyn sicrhau mynediad cyflym i lety a gwasanaethau cymorth, a chamau gweithredu pellach i fynd i'r afael â chysgu allan.

Mae'r Cyngor hefyd yn cynnal adolygiad o lety brys i edrych ar leihau'r amser mae pobl yn treulio mewn tai dros dro ac i ddeall yn well y rhwystrau sy'n atal pobl rhag symud ymlaen i denantiaethau tymor hwy.

Mae gwella ac ehangu Allweddi Caerffili Keys, sef menter rhentu preifat cymdeithasol arloesol y Cyngor, hefyd wedi'i gynnwys yn y cynllun. Yn ddiweddar, lansiodd ei wefan ei hun, yn ogystal â sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cartrefi ychwanegol i'r rheini sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Thai y Cyngor, “Gweithiodd y tîm Atebion Tai yn eithriadol o galed drwy gydol y pandemig a dylen nhw gael eu llongyfarch ar eu hymdrechion i sicrhau nad oedd neb yn cael ei adael heb lety yn ystod cyfnod mor heriol.

“Mae cymeradwyo'r Cynllun Prosiect Digartrefedd heddiw yn gosod gweledigaeth glir ar gyfer sut y gallwn ni adeiladu ar gryfderau'r tîm a gweithio gyda phartneriaid i atal digartrefedd ymhellach a pharhau i helpu rhai o'n trigolion mwyaf agored i niwed.”


Ymholiadau'r Cyfryngau