News Centre

Cabinet yn cymeradwyo Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yfed alcohol

Postiwyd ar : 16 Tach 2021

Cabinet yn cymeradwyo Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yfed alcohol
Fe wnaeth Pwyllgor Craffu'r Amgylchedd a Chynaliadwyedd geisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer ymestyn ac amrywio rhai o'r ardaloedd sy'n destun Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus i gynnwys cyfyngiadau ar ymddygiad gwrthgymdeithasol a chyflwyno nifer o ardaloedd newydd yn y Fwrdeistref Sirol.

Cafodd Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus eu cyflwyno gan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, ac maen nhw'n cael eu defnyddio gan awdurdodau lleol i ddelio â phroblemau o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn ardal ddaearyddol trwy osod amodau ar y defnydd o'r ardal. Nod Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yw sicrhau bod y mwyafrif sy'n ufudd i'r gyfraith yn gallu defnyddio a mwynhau mannau agored cyhoeddus, heb wynebu ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Yn y cyfarfod ar 22 Mehefin 2021, fe wnaeth Pwyllgor Craffu'r Amgylchedd a Chynaliadwyedd gymeradwyo ymgynghoriad cyhoeddus arfaethedig ynghylch cynnig i ymestyn a diwygio'r Gorchmynion presennol o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yfed alcohol mewn man agored cyhoeddus, a chyflwyno nifer o ardaloedd newydd. Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus ei lansio ar 23 Gorffennaf am gyfnod o 6 wythnos. Cafodd canlyniad yr ymgynghoriad a'r Gorchmynion arfaethedig eu hystyried gan Bwyllgor Craffu'r Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn ystod cyfarfod ar 26 Hydref 2021.

Ymhlith y sylwadau ar yr arolwg, fe wnaeth rhai o'r ymatebwyr awgrymu ardaloedd ychwanegol y bydden nhw'n hoffi eu gweld yn destun Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus. Cafodd ymchwiliad priodol ei wneud i'r holl awgrymiadau hyn, a chafodd data galwadau yr Heddlu eu dadansoddi i bennu a oedd tystiolaeth ddigonol i gyfiawnhau sefydlu Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus. Ar sail hyn, y cynnig yw ychwanegu'r ardaloedd canlynol at y rhestr o ardaloedd newydd a fydd yn destun Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus:
 
  • Gorsaf Drenau Hengoed
  • Birchgrove, Tirphil, Tredegar Newydd
  • Maes Parcio Llyfrgell Rhymni
  • Parc Eco Pengam gan gynnwys Dylan Avenue
  • Gorsaf Drenau Crosskeys
  • Risca Road, Crosskeys
 
Meddai'r Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd a Gwasanaethau'r Gymdogaeth, “Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n ymwneud ag yfed yn y stryd yn parhau i ddifetha llawer o'n cymunedau ni, ac mae'r Cyngor yn sefyll yn gadarn trwy gyflwyno Gorchymyn mewn nifer o ardaloedd y mae Pwyllgor Craffu'r Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi dwyn ein sylw ni atyn nhw.

“Yn y pen draw, diogelu trigolion yw ein blaenoriaeth ni, a'r nod yw sicrhau bod y mwyafrif sy'n ufudd i'r gyfraith yn gallu defnyddio a mwynhau mannau agored cyhoeddus, heb wynebu ymddygiad gwrthgymdeithasol.”


Ymholiadau'r Cyfryngau