News Centre

Gwaith yn cychwyn yn swyddogol ar farchnad newydd Caerffili - Ffos Caerffili

Postiwyd ar : 05 Mai 2023

Gwaith yn cychwyn yn swyddogol ar farchnad newydd Caerffili - Ffos Caerffili
Mae tir wedi’i dorri ar leoliad Heol Caerdydd cyn iddo agor yn hydref 2023
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi torri tir newydd yn lleoliad Marchnad Ffos Caerffili, gan nodi dechrau’r gwaith adfywio yng Nghaerffili – diolch i bartneriaeth ariannol rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Llywodraeth Cymru, gyda’r rhan fwyaf o’r cyllid yn dod drwy fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Mae’r cynnydd yn nodi dechrau cynllun ehangach Llunio Lleoedd Caerffili 2035.

I nodi’r achlysur, daeth y Cynghorydd Jamie Pritchard, y Cynghorydd Sean Morgan, Hamish Munro o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a thîm Lancer Scott at ei gilydd i roi’r rhaw gyntaf yn y ddaear yn swyddogol.

Mae’r Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a’r Cynghorydd Jamie Pritchard wedi bod yn allweddol wrth wireddu’r prosiect hwn, gan sicrhau bod anghenion a dymuniadau’r gymuned leol yn cael eu hystyried, a bod y farchnad yn cael ei datblygu mewn modd cynaliadwy a chynhwysol.

Dywedodd dirprwy arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd James Pritchard; “Mae’n wych gweld y datblygiad yn mynd rhagddo. Rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda’n partneriaid yn Llywodraeth Cymru, a nawr bod y rhawiau yn y ddaear, gallwn ni fod yn gyffrous iawn bod Ffos Caerffili yn agor ei ddrysau yn ddiweddarach eleni. Allwn ni ddim aros!”
 
Rhoddodd Rheolwr Gweithrediadau’r cwmni adeiladu Lancer Scott, Adam Bidhendy, ddiweddariad ar eu cynnydd ac esboniodd eu cynlluniau ymhellach, sy’n cynnwys ardal golchi olwynion ac ysgubwyr ffyrdd wythnosol i gynnal safle a chanol tref glân . Mae'r tîm yn awyddus i roi gwybod i drigolion am y cynnydd ar y safle trwy hysbysfwrdd, sgyrsiau wyneb yn wyneb â'r rhai sy'n mynd heibio a dosbarthu llythyrau i bobl leol a allai gael eu heffeithio gan yr aflonyddwch.
 
Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan; “Mae Pandemig y Coronafeirws wedi atal llawer o’n prosiectau uchelgeisiol. Mae nodi dechrau’r gwaith yma heddiw ym mhrosiect cyffrous marchnad Ffos Caerffili, yn dangos ein bwriad i gyflawni ar brosiectau ledled y Fwrdeistref.”

Bu prosiect Ffos Caerffili yn bosibl diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a grant gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Mae Trawsnewid Trefi yn canolbwyntio ar wella bioamrywiaeth a seilwaith gwyrdd; ail-bwrpasu eiddo anghofiedig; cynyddu gofod gweithio a byw hyblyg; a darparu mynediad i wasanaethau.
 
Dywedodd y Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, Julie James: “Mae ein rhaglen trawsnewid trefi yn parhau i sicrhau canlyniadau gwych yn ein hymrwymiad a’n huchelgais i adfywio canol trefi ar draws Cymru, gan eu rhoi wrth galon popeth a wnawn.”

Am ragor o fanylion ewch i'r wefan bwrpasol: https://www.caerphillytown2035.co.uk/
 


Ymholiadau'r Cyfryngau