News Centre

Bywyd gwyllt yn ffynnu o ganlyniad i ddull newydd y Cyngor o ran torri gwair

Postiwyd ar : 04 Mai 2023

Bywyd gwyllt yn ffynnu o ganlyniad i ddull newydd y Cyngor o ran torri gwair
Yn ddiweddar, fe wnaeth Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gymeradwyo cynlluniau i ddiwygio trefniadau torri gwair, gyda'r nod o hyrwyddo bioamrywiaeth.

Fe wnaeth aelodau'r Cabinet gymeradwyo mabwysiadu'r dull a gafodd ei ddefnyddio yn ystod 2021/22 fel safon y dyfodol ar gyfer torri gwair yn y Fwrdeistref Sirol.

Roedd hefyd ymrwymiad i gefnogi'r Ymgyrch ‘Mai Di-dor’ ledled y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn golygu na fydd gwaith torri gwair ffurfiol yn dechrau tan fis Mehefin, ac eithrio:
 
  • Sicrhau gwelededd i ddefnyddwyr ffyrdd;
  • Cadw arwyddion traffig a llinellau gweld yn glir;
  • Cynnal ymylon a mynediad ar hyd troedffyrdd a llwybrau beicio;
  • Cynnal parciau, meysydd chwaraeon, mynwentydd, ystadau tai, mannau agored gwyrdd ar gyfer chwarae a hamdden.
O ganlyniad i hyn, mae nifer o fannau wedi'u gadael i ffynnu yn ystod cyfnod yr haf ac mae'r manteision eisoes yn amlwg.


Ymholiadau'r Cyfryngau