News Centre

Maer newydd Caerffili yn dewis elusen y flwyddyn

Postiwyd ar : 17 Mai 2023

Maer newydd Caerffili yn dewis elusen y flwyddyn
Mae Maer newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y Cynghorydd Mike Adams, wedi datgelu ei elusen ddewisol ar gyfer y flwyddyn, sef Cymdeithas Cŵn Tywys y Deillion.
 
Derbyniodd Mike swydd y pennaeth dinesig yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor, a gafodd ei gynnal ddydd Iau 11 Mai. Mae wedi dewis y Gymdeithas Cŵn Tywys fel yr elusen ar gyfer ei flwyddyn yn y swydd ar ôl eu cefnogi fel unigolyn am nifer o flynyddoedd.  Mae’n gobeithio y bydd pobl y Fwrdeistref Sirol yn ymuno ag ef a Gloria yn 2023-24 i godi rhywfaint o’r arian sydd ei angen i fridio, maethu a hyfforddi cŵn bach er mwyn rhoi’r hyder a’r cymorth angenrheidiol i ragor o bobl sydd â nam ar eu golwg fel eu bod nhw'n byw eu bywydau’n annibynnol ac i'r eithaf.
 
Dywedodd y Cynghorydd Adams, “Mae’n anrhydedd mawr cael gwasanaethu fel Maer y Fwrdeistref Sirol am y flwyddyn i ddod, ac ynghyd â fy ngwraig Gloria, rydw i'n edrych ymlaen at gynrychioli Bwrdeistref Sirol Caerffili a’i dinasyddion yn yr ymrwymiadau dinesig niferus ac amrywiol rydyn ni'n gobeithio y daw yn y flwyddyn i ddod.  Rydw i hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â sefydliadau a thrigolion lleol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau nhw."
 
Ar ôl gweithio yn South Wales Switchgear rhwng 1966 a 1992, daeth Mike yn fyfyriwr hŷn, gan gwblhau gradd BA mewn Daearyddiaeth ac Astudiaethau Ewropeaidd ym 1996, gan raddio ar lefel 2:1.
 
Ers hynny, mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o swyddi, gan gynnwys cyfnod byr yn hunangyflogedig a chyfnod dros dro gyda phlaid Llafur Cymru, cyn dychwelyd i fyd peirianneg ac, yn y pen draw, i wasanaeth sifil. Yn ystod y cyfnod diwethaf hwnnw, safodd Mike fel ymgeisydd Llafur ym Mhontllan-fraith a chael ei ethol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn 2004. Mae wedi parhau i gynrychioli trigolion ward Pontllan-fraith ers hynny.  Fe ymddeolodd Mike o gyflogaeth yn 2017.
 
Yn briod â'i wraig Gloria ers 50 mlynedd, mae ganddyn nhw ddau fab gyda'i gilydd. Ar ôl chwarae rygbi a chriced yn yr ysgol, mae Mike yn parhau i fod yn gefnogwr chwaraeon brwd, a, phan nad yw’n cyflawni ei ddyletswyddau yn cynrychioli etholwyr, mae modd dod o hyd iddo yn gwylio pêl-droed yn aml.  Mae hefyd yn mwynhau darllen (yn enwedig nofelau gwleidyddol cyffrous) a cherdded ar y penwythnos mewn ardaloedd gwledig lleol. 


Ymholiadau'r Cyfryngau