News Centre

Nodweddion dringo newydd yn dod i Barc Penallta yn fuan

Postiwyd ar : 17 Mai 2023

Nodweddion dringo newydd yn dod i Barc Penallta yn fuan
Bydd gan Barc Penallta, Ystrad Mynach, dair nodwedd ddringo newydd yn fuan.
 
Llwyddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i sicrhau cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014–2020 – i ddatblygu cyfres o gerrig dringo i gyd-fynd â nodweddion dringo naturiol y parc.
 
Bydd y strwythurau dringo newydd ym Mharc Penallta yn cynnig cyfleoedd ar gyfer gwahanol lefelau o ran gallu – o ddechreuwyr i lefel uwch. Enwau'r strwythurau pwrpasol, a fydd yn rhad ac am ddim i'w defnyddio, fydd ‘Meithrinfa’, ‘Datguddiad’ a ‘Rhyfeddol’.
 
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet y Cyngor dros Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Bydd y nodweddion dringo newydd yn ychwanegiadau gwych i un o barciau poblogaidd y Fwrdeistref Sirol. Yn ogystal â chynnig rhywbeth newydd i ymwelwyr rheolaidd, rydyn ni hefyd yn gobeithio y bydd yn annog pobl newydd i archwilio'r hyn sydd ar gael ym Mharc Penallta.
 
“Rydw i am ddiolch i ymdrechion ein timau Datblygu Gwledig a Gwasanaethau Cefn Gwlad a'r contractwr Bendcrete am wireddu'r prosiect.”
 
Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i osod y nodweddion dringo, ac mae disgwyl y bydd yn cael ei gwblhau yn yr wythnosau nesaf.


Ymholiadau'r Cyfryngau