News Centre

Cyhoeddi Dirprwy Brif Weithredwr newydd y Cyngor

Postiwyd ar : 18 Mai 2023

Cyhoeddi Dirprwy Brif Weithredwr newydd y Cyngor
Dave Street, Mae Dirprwy Brif Weithredwr newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Mae Dirprwy Brif Weithredwr newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi'i benodi i helpu cyflwyno rhaglen gyffrous o newid a gwelliant ledled y sefydliad.

Mae Dave Street, cyn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor, wedi'i benodi'n ffurfiol i'r rôl heddiw (dydd Iau, 18 Mai) ac mae'n edrych ymlaen at yr heriau a'r cyfleoedd sydd o'i flaen.

“Rwy wrth fy modd i gael cynnig y swydd allweddol hon, a fydd yn helpu llywio cyfeiriad y Cyngor yn y dyfodol,” meddai Dave Street. “Rwy wedi gweithio i Gaerffili ers dros 27 o flynyddoedd ac mae fy mhrofiad mewn gofal cymdeithasol yn golygu fy mod i'n adnabod ein Bwrdeistref Sirol yn dda iawn ac rwy'n angerddol am ddarparu gwasanaethau o ansawdd i'n holl drigolion lleol.

“Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fynd ati'n syth a pharhau â'm gwaith gyda'r uwch dîm arwain i ddarparu newid cadarnhaol er mwyn diwallu anghenion cymhleth ein cymuned.”

Fe wnaeth y Prif Weithredwr, Christina Harrhy, groesawu'r penodiad, “Mae hyn yn newyddion gwych i'r Cyngor a'r gymuned ehangach gan fod gan Dave gyfoeth o brofiad ac mae'n adnabod ein sefydliad, ein pobl a'n Bwrdeistref Sirol yn drylwyr.”

“Mae'r penodiad hwn yn sicrhau bod gan y Cyngor ddigon o gapasiti ar frig y sefydliad i gyflawni newid cadarnhaol, ond rwy hefyd yn canolbwyntio ar recriwtio a chadw staff ar bob lefel ledled y sefydliad fel bod gennym ni ddigon o staff i ddarparu gwasanaethau allweddol a chymorth i'n trigolion.”



Ymholiadau'r Cyfryngau