News Centre

Cyhoeddi mai Mike yw'r Maer newydd

Postiwyd ar : 12 Mai 2023

Cyhoeddi mai Mike yw'r Maer newydd
Cyng Mike Adams

Maer newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw'r Cynghorydd Mike Adams.

Derbyniodd Mike, sy'n cynrychioli ward Pontllan-fraith, y swydd pennaeth dinesig yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor neithiwr (nos Iau 11 Mai).

Dywedodd y Cynghorydd Adams, “Mae’n anrhydedd ac yn fraint cael fy newis i wasanaethu’r Cyngor a’r Fwrdeistref Sirol fel Maer am y flwyddyn i ddod. Rwy’n edrych ymlaen at gofleidio’r rôl a chwrdd â chymaint o bobl â phosibl ar draws ein holl gymunedau ni.”

Y Dirprwy Faer yw'r Cynghorydd Julian Simmonds, sy'n cynrychioli ward Crosskeys.

Cafodd penderfyniad hefyd ei wneud yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i leihau maint Cabinet y Cyngor. Mae'r Cabinet yn cynnwys uwch gynghorwyr sydd oll â chyfrifoldeb am bortffolio maes gwasanaeth diffiniedig. 

Yn flaenorol, roedd y Cabinet yn cynnwys deg aelod, ond mae hyn wedi’i leihau i naw yn dilyn penderfyniad y Cynghorydd Julian Simmonds i roi’r gorau i’w rôl yn ddiweddar. Bydd ei Gyd-Aelod Cabinet y Cynghorydd Nigel George yn dod yn gyfrifol am ei bortffolio yn y dyfodol.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, “Rydw i wedi cytuno i leihau maint y Cabinet er mwyn helpu i sicrhau arbedion a gwneud y strwythur yn symlach. Mae hyn yn adlewyrchu penderfyniad tebyg a gafodd ei wneud yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i leihau nifer y Pwyllgorau Craffu er mwyn gwneud ein proses penderfynu ni’n fwy effeithlon, cynhwysol a chynhyrchiol.” 

 
Mae strwythur diwygiedig y Cabinet fel a ganlyn:
 
Y Cynghorydd Sean Morgan
Arweinydd y Cyngor
Y Cynghorydd Jamie Pritchard
Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd:
Y Cynghorydd Nigel George
Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol, Eiddo a Phriffyrdd
Y Cynghorydd Eluned Stenner
Aelod Cabinet dros Gyllid a Pherfformiad
Y Cynghorydd Carol Andrews
Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau
Y Cynghorydd Shayne Cook
Aelod Cabinet dros Dai
Y Cynghorydd Philippa Leonard
Aelod Cabinet dros Gynllunio a Diogelu’r Cyhoedd
Y Cynghorydd Chris Morgan
Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd
Councillor Elaine Forehead
Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol

 


Ymholiadau'r Cyfryngau