News Centre

Ysgol Gynradd Machen yn prynu offer chwarae newydd gyda Grant Ymrymuso'r Gymuned

Postiwyd ar : 16 Mai 2023

Ysgol Gynradd Machen yn prynu offer chwarae newydd gyda Grant Ymrymuso'r Gymuned

Mae offer chwarae newydd, sy'n cynnwys trên pren a ffrâm ddringo, yn eu lle ar faes chwarae Ysgol Gynradd Machen, yn sgil y Grant Ymrymuso'r Gymuned.

Cafodd y Gronfa Ymrymuso'r Gymuned ei chreu i alluogi cymunedau i ddatblygu a chyflawni prosiectau, gyda'r nod o ddiwallu anghenion eu trigolion.

Dywedodd Claire Kulisa, Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Machen, “Fe wnes i ymgeisio am y Grant Ymrymuso'r Gymuned, gyda'r Cynghorydd Amanda McConnell yn noddwr i mi. Fe wnes i ymgeisio gan fod gennym ni nifer o blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn ein hysgol ni, gyda tua deg o blant ag anawsterau cyfathrebu cymdeithasol neu anhwylderau ar y sbectrwm awtistig.

“Roeddwn i eisiau helpu'r plant hyn i gael amgylchedd gwell i chwarae ynddo, a gwella eu sgiliau cymdeithasol a'u gallu i gymryd rhan mewn gemau.”

Mae llawer o'r disgyblion ag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig yn gwrthod mynd allan i'r maes chwarae, ac ers i'r ychwanegiadau newydd gyrraedd, mae athrawon wedi sylwi ar wahaniaeth sylweddol.


Ychwanegodd Claire Kulisa, “Fe wnaethon ni ymgeisio am arian ar gyfer y ddau ddarn yma o offer chwarae a chawson ni'r swm llawn o £4,940. Maen nhw bellach wedi cyrraedd, ac mae'r plant yn eu defnyddio nhw'n helaeth bob amser egwyl, gyda'r staff yn annog gemau a'r defnydd ohonyn nhw gan blant ag anghenion dysgu ychwanegol hefyd. Rydyn ni'n hynod ddiolchgar am y cyllid, a'n prosiect nesaf yw helpu gwella ochr ysgol iau y maes chwarae.”



Ymholiadau'r Cyfryngau