News Centre

Cwmni lleol CB Refrigeration yn gallu ehangu ymhellach oherwydd cymorth Cyngor Caerffili

Postiwyd ar : 23 Mai 2023

Cwmni lleol CB Refrigeration yn gallu ehangu ymhellach oherwydd cymorth Cyngor Caerffili
Mae CB Refrigeration wedi bod mewn busnes ers dros 50 mlynedd, ac yn 2016, fe symudon nhw eu prif swyddfa i Gaerffili. Ers hynny, mae'r perchennog, Andrew Hall, wedi gweld y busnes yn mynd o nerth i nerth gyda throsiant yn fwy na £4.3 miliwn bellach, gan gynyddu 25% eleni yn unig. Ledled y Deyrnas Unedig, maen nhw'n arbenigo mewn cyflenwi, cynnal a chadw a gosod unedau rheweiddio ac aerdymheru ar gyfer y sectorau manwerthu, lletygarwch a dosbarthu, gyda rhai o'r cwmnïau mwyaf blaenllaw ym maes lletygarwch ymhlith eu cleientiaid nhw.

Er gwaethaf ôl-effeithiau'r pandemig, fe wnaeth y cwmni ehangu yn 2022 gyda 18 aelod newydd o staff yn cael eu cyflogi mewn rolau amrywiol, gan ddod â chyfanswm y gweithlu i 35, gyda 10 is-gontractwr arall yn helpu i wasanaethu eu sylfaen cleientiaid sy'n ehangu. Mae twf y busnes yn parhau, ac ym mis Ionawr 2023, fe wnaethon nhw feddiannu'r uned gyfagos yn Ayjay House i ymestyn eu cyfleuster storio. Ers 2022, mae'r cwmni wedi buddsoddi dros £400,000 i gyflawni'r twf a gallu darparu'r gwasanaeth rhagorol mae eu cleientiaid wedi dod i'w ddisgwyl.

I lwyddo yn eu cynlluniau i ehangu, cysylltodd CB Refrigeration â Thîm Menter Fusnes ac Adnewyddu Cyngor Caerffili am gymorth i wneud cais am arian grant i adnewyddu eu swyddfeydd er mwyn gwneud lle ar gyfer eu staff newydd, adeiladu derbynfa newydd a phrynu'r cyfarpar TG newydd sydd ei angen i alluogi'r busnes i dyfu.

Cafodd CB Refrigeration £11,877.75 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Rhoddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili'r cyllid hwn i CB Refrigeration o gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Ymwelodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, yr Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, â'r safle yn ddiweddar i gael gwybod rhagor am eu llwyddiant a chael gwybod sut roedd y Cyngor wedi eu cynorthwyo.

Dywedodd, “Mae CB Refrigeration yn fusnes sydd am ymestyn y gweithrediadau presennol o fewn eu hadeilad presennol i alluogi eu canolfan i aros yng Nghaerffili a pharhau i dyfu'n organig. Rydyn ni wedi cynorthwyo'r cwmni i adnewyddu TG a'r swyddfa i'w helpu ar hyd y ffordd.”

Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol, Andrew Hall, hefyd, “Rydyn ni wedi gweld twf dramatig yn ein busnes ni yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, felly, roedd y cymorth gan Dîm Busnes Caerffili wedi ei groesawu'n fawr iawn. Cafodd yr holl broses o wneud cais am y grant ei gwneud yn hawdd iawn gan y Tîm, sydd wedi bod yno i'n cynghori a'n cynorthwyo ni yr holl ffordd.”


Ymholiadau'r Cyfryngau