News Centre

Gwelliannau wedi'u cynllunio ar gyfer sgwâr Trinant

Postiwyd ar : 12 Mai 2023

Gwelliannau wedi'u cynllunio ar gyfer sgwâr Trinant
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi datgelu cynlluniau i wella'r sgwâr yn Nhrinant, fel rhan o'i raglen gwelliannau amgylcheddol Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC).
 
Mae'r cynlluniau'n cynnwys adnewyddu'r ardaloedd o gwmpas y coed ar flaen y sgwâr, tynnu coblau, a gosod meinciau, rheiliau, biniau, rhesel feiciau a cholofnau golau newydd. Mae cynlluniau hefyd i ostwng y camau crwm a'u disodli â charreg gyda chanllaw dur wedi’i frwsio.
 
Y bwriad yw dechrau’r gwaith tua 15 Mai, yn dibynnu ar y tywydd, gyda disgwyl iddo gael ei gwblhau ddiwedd yr haf. Bydd rhywfaint o darfu yn ystod y gwaith, ond mae'r Cyngor yn sicrhau trigolion y bydd yn gwneud ei orau glas i leihau hyn cymaint â phosibl. Bydd mynediad ar gael i siopau, Canolfan Gymunedol Trinant a’r lleoliad Dechrau'n Deg drwyddi draw.
 
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, "Drwy’r rhaglen SATC, cafodd dros £260 miliwn ei fuddsoddi mewn cartrefi a chymunedau sy'n eiddo i'r Cyngor ym mhob rhan o'r Fwrdeistref Sirol.  Er bod y brif raglen wedi ei chwblhau, rydyn ni’n dal i gyflawni prosiectau amgylcheddol a gafodd eu nodi fel blaenoriaethau gan gymunedau lleol yn ystod ymgynghori blaenorol.
 
"Bydd y gwaith sydd wedi ei gynllunio ar gyfer Trinant yn gwella golwg a hygyrchedd yn ardal y sgwâr, gan fod o fudd i drigolion a busnesau lleol." 
 


Ymholiadau'r Cyfryngau