News Centre

Ysgol Gynradd Graig-y-rhaca yn helpu cadw Caerffili'n lan

Postiwyd ar : 10 Mai 2023

Ysgol Gynradd Graig-y-rhaca yn helpu cadw Caerffili'n lan
Mae Ysgol Gynradd Graig-y-rhaca yn dathlu agoriad ei Hwb Codi Sbwriel Caru Cymru lleol.

Mae Hybiau Codi Sbwriel Caru Cymru, sydd wedi'u datblygu gyda Cadwch Gymru'n Daclus, yn galluogi trigolion i fenthyg popeth maen nhw'n ei angen i gynnal digwyddiad codi sbwriel diogel am ddim. Mae hyn yn cynnwys codwyr sbwriel, festiau llachar, bagiau sbwriel a chylchynau (sy'n hanfodol er mwyn cadw bagiau ar agor mewn amodau gwyntog).

Cafodd disgyblion Ysgol Gynradd Graig-y-rhaca eu hymuno gan Gymdeithas Gymunedol Graig-y-rhaca a Chynghorwyr lleol i helpu codi sbwriel yn eu cymuned er mwyn dathlu Hwb Codi Sbwriel Caru Cymru newydd yng nghanolfan gymunedol Graig-y-rhaca.
 
Meddai'r Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, "Diolch enfawr i ddisgyblion Ysgol Gynradd Graig-y-rhaca, Gymdeithas Gymunedol Graig-y-rhaca a'r Cynghorydd Amanda McConnell am eu help gyda'r digwyddiad codi sbwriel diweddar.
 
“Rydyn ni'n gyffrous i gyhoeddi agoriad Hwb Codi Sbwriel Caru Cymru arall yn y Fwrdeistref Sirol. Rydyn ni, fel awdurdod, trwy'r amser yn edrych am ffyrdd arloesol o leihau gwastraff a gwella ein ffigyrau ailgylchu, felly, mae'n siom mawr bod sbwriel yn parhau i fod yn broblem mewn rhai ardaloedd. Mae'r hybiau hyn yn sicrhau bod unrhyw un sydd eisiau codi sbwriel yn gallu gwneud hyn yn ddiogel."

Meddai'r Cynghorydd Amanda McConnell, "Roedd yn wych i weld disgyblion Ysgol Gynradd Graig-y-rhaca yn dangos balchder yn eu cymuned leol, gan helpu gwneud ein Bwrdeistref Sirol yn lanach ac yn wyrddach. Diolch enfawr i bawb a gymerodd ran!"
 
Mae Hwb Codi Sbwriel Graig-y-rhaca nawr ar gael yng Nghanolfan Gymunedol Graig-y-rhaca, Machen, Caerffili CF83 8WW.
 
Am ragor o wybodaeth, oriau agor a manylion cyswllt, ewch i: keepwalestidy.cymru/caru-cymru/cy/hybiau-codi-sbwriel/


Ymholiadau'r Cyfryngau