News Centre

Cam cyntaf y gwaith o adeiladu cartrefi newydd yn Llanbradach wedi'i gwblhau

Postiwyd ar : 25 Mai 2023

Cam cyntaf y gwaith o adeiladu cartrefi newydd yn Llanbradach wedi'i gwblhau
Mae cam cyntaf datblygiad tai newydd yn Llanbradach bellach wedi'i gwblhau, ac mae'r preswylwyr newydd wedi symud i mewn i'r tai i gyd.

Roedd y sefydliad tai nid-er-elw, United Welsh, wedi gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a M&J Cosgrove Ltd i adeiladu cam un o Wingfield Crescent, gan droi tir gwagyn gymuned o 30 o dai fforddiadwy, o ansawdd uchel.

Roedd 26 o’r tai ar gyfer rhent fforddiadwy ac wedi'u dyrannu i bobl ar Gofrestr Tai Cyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cafodd pedwar cartref eu gwerthu trwy Harmoni Homes, sef brand United Welsh i helpu prynwyr tro cyntaf a phobl sydd eisiau bod yn berchen ar dŷ eto.

Meddai Peter Seaborne, Rheolwr Datblygu United Welsh, "Mae'n wych gweld y tir y tu ôl i Wingfield Terrace yn cael ei droi'n gymuned o dai modern, o ansawdd uchel.

"Mae'r datblygiad yn darparu cymysgedd o gartrefi fforddiadwy mawr eu hangen i Lanbradach, ac 19 lle parcio ychwanegol oddi ar y safle i helpu'r gymuned ehangach.

"Mae'n bwysig i ni yn United Welsh bod ein datblygiadau newydd yn croesawu technoleg carbon isel, gan helpu preswylwyr i gadw eu costau ynni nhw mor isel â phosibl a lleihau effaith newid yn yr hinsawdd yng Nghymru."

Mae gwaith ar y gweill ar ail gam y safle, a fydd yn cynnwys adeiladu 23 o dai ychwanegol yn Wingfield Crescent, gan gynnwys un byngalo hygyrch.

Mae'r fframiau pren ar gyfer y tai yn yr ail gam wedi cael eu cyflenwi gan Celtic Offsite, menter gymdeithasol sy'n rhan o'r United Welsh Group. Cynhyrchodd Celtic Offsite y strwythurau yn ei ffatri yng Nghaerffili, sy'n 56,000 troedfedd sgwâr, ac mae'r cartrefi'n cael eu cwblhau ar y safle gan M&J Cosgrove Ltd.

Dywedodd Neil Robins, Rheolwr Gyfarwyddwr Celtic Offsite, "Mae ein tîm wrth eu bodd i fod yn cyflenwi'r strwythurau ffrâm pren ar gyfer y tai newydd hyn yn Wingfield, Llanbradach.

"Fel menter carbon bositif, mae lleihau ein hôl troed carbon yn bwysig iawn i ni. Mae'n wych gallu cyflenwi'r fframiau pren, sy'n cael ei ystyried i fod yn un o'r deunyddiau adeiladu mwyaf cynaliadwy, i safle dim ond dwy filltir i ffwrdd o'r ffatri.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld y 23 o gartrefi'n dod yn fyw ac rydyn ni'n falch o fod yn rhan o ddod â chartrefi fforddiadwy, o ansawdd uchel i'r ardal."

Ychwanegodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili dros Dai, "Rydyn ni wrth ein bodd i weithio mewn partneriaeth ag United Welsh i ddarparu tai fforddiadwy, ynni-effeithlon newydd yn Llanbradach.  Yn ogystal â helpu diwallu anghenion tai, mae'r datblygiad hwn hefyd yn enghraifft wych o sut mae gweithio mewn partneriaeth yn helpu lleihau allyriadau carbon a chreu swyddi i bobl leol trwy Celtic Offsite."


Ymholiadau'r Cyfryngau