Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Mai 2023
Cam cyntaf y gwaith o adeiladu cartrefi newydd yn Llanbradach wedi'i gwblhau
News Centre
Cam cyntaf y gwaith o adeiladu cartrefi newydd yn Llanbradach wedi'i gwblhau
Postiwyd ar : 25 Mai 2023
Mae cam cyntaf datblygiad tai newydd yn Llanbradach bellach wedi'i gwblhau, ac mae'r preswylwyr newydd wedi symud i mewn i'r tai i gyd.
Roedd y sefydliad tai nid-er-elw, United Welsh, wedi gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a M&J Cosgrove Ltd i adeiladu cam un o Wingfield Crescent, gan droi tir gwagyn gymuned o 30 o dai fforddiadwy, o ansawdd uchel.
Roedd 26 o’r tai ar gyfer rhent fforddiadwy ac wedi'u dyrannu i bobl ar Gofrestr Tai Cyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cafodd pedwar cartref eu gwerthu trwy Harmoni Homes, sef brand United Welsh i helpu prynwyr tro cyntaf a phobl sydd eisiau bod yn berchen ar dŷ eto.
Meddai Peter Seaborne, Rheolwr Datblygu United Welsh, "Mae'n wych gweld y tir y tu ôl i Wingfield Terrace yn cael ei droi'n gymuned o dai modern, o ansawdd uchel.
"Mae'r datblygiad yn darparu cymysgedd o gartrefi fforddiadwy mawr eu hangen i Lanbradach, ac 19 lle parcio ychwanegol oddi ar y safle i helpu'r gymuned ehangach.
"Mae'n bwysig i ni yn United Welsh bod ein datblygiadau newydd yn croesawu technoleg carbon isel, gan helpu preswylwyr i gadw eu costau ynni nhw mor isel â phosibl a lleihau effaith newid yn yr hinsawdd yng Nghymru."
Mae gwaith ar y gweill ar ail gam y safle, a fydd yn cynnwys adeiladu 23 o dai ychwanegol yn Wingfield Crescent, gan gynnwys un byngalo hygyrch.
Mae'r fframiau pren ar gyfer y tai yn yr ail gam wedi cael eu cyflenwi gan Celtic Offsite, menter gymdeithasol sy'n rhan o'r United Welsh Group. Cynhyrchodd Celtic Offsite y strwythurau yn ei ffatri yng Nghaerffili, sy'n 56,000 troedfedd sgwâr, ac mae'r cartrefi'n cael eu cwblhau ar y safle gan M&J Cosgrove Ltd.
Dywedodd Neil Robins, Rheolwr Gyfarwyddwr Celtic Offsite, "Mae ein tîm wrth eu bodd i fod yn cyflenwi'r strwythurau ffrâm pren ar gyfer y tai newydd hyn yn Wingfield, Llanbradach.
"Fel menter carbon bositif, mae lleihau ein hôl troed carbon yn bwysig iawn i ni. Mae'n wych gallu cyflenwi'r fframiau pren, sy'n cael ei ystyried i fod yn un o'r deunyddiau adeiladu mwyaf cynaliadwy, i safle dim ond dwy filltir i ffwrdd o'r ffatri.
"Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld y 23 o gartrefi'n dod yn fyw ac rydyn ni'n falch o fod yn rhan o ddod â chartrefi fforddiadwy, o ansawdd uchel i'r ardal."
Ychwanegodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili dros Dai, "Rydyn ni wrth ein bodd i weithio mewn partneriaeth ag United Welsh i ddarparu tai fforddiadwy, ynni-effeithlon newydd yn Llanbradach. Yn ogystal â helpu diwallu anghenion tai, mae'r datblygiad hwn hefyd yn enghraifft wych o sut mae gweithio mewn partneriaeth yn helpu lleihau allyriadau carbon a chreu swyddi i bobl leol trwy Celtic Offsite."
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Rhybudd i drigolion Bargod am alwyr diwahoddiad yn cynnig ail-chwistrellu patios
Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon wedi’i hagor yn swyddogol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Teyrngedau i'r cyn Faer
Cwpl o Drelyn yn cael eu dedfrydu am droseddau lles anifeiliaid a bridio cŵn yn anghyfreithlon
Trawsnewid bywydau trwy brosiect Allweddi Caerffili
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y