News Centre

Fire Industry Training Academy Ltd (FITA) Gyda chymorth Llywodraeth y DU a CBSC i Ddatblygu Canolfan Hyfforddiant Diogelwch Tân

Postiwyd ar : 10 Mai 2023

Fire Industry Training Academy Ltd (FITA) Gyda chymorth Llywodraeth y DU a CBSC i Ddatblygu Canolfan Hyfforddiant Diogelwch Tân
Mae Gareth Selway a Peter Bell wedi sefydlu cwmni, Fire Industry Training Academy Ltd (FITA), sy'n ymdrin â phob agwedd ar ddiogelwch tân o hyfforddiant ddefnyddio diffoddwyr tân, hyd at reoli tân digwyddiad lefel uchel. Maen nhw’n 'siop un stop' ar gyfer holl anghenion hyfforddiant diogelwch tân. Roedd y cyfarwyddwyr Gareth, a Peter, yn chwilio am gymorth grant ar gyfer datblygu eu cynllun i greu'r ganolfan rhagoriaeth hon o fewn y diwydiant hyfforddiant diogelwch tân.

Yr academi, sy'n hyfforddi prentisiaid medrus gyda chymwysterau wedi’u cydnabod gan y diwydiant, fydd y cyntaf o'i math yng Nghymru. Hyd yma roedd angen i bobl deithio i Loegr i gael y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen yn y maes.

Daeth y syniad i fod pan deimlodd Gareth a Peter yn anfodlon gyda chyfleusterau hyfforddiant diogelwch tân ledled y wlad ac redden nhw’n frwd dros weithredu newid. Arweiniodd hyn at gynhyrchu'r rhaglen hyfforddi unigryw hon. Yn wahanol i ddarparwyr hyfforddiant eraill, bydd FITA yn addysgu hyfforddeion am bob system gwneuthurwr, yn hytrach nag un gwneuthurwr fel cyrsiau eraill. Bydd gan y ganolfan gyfleusterau hyfforddi o'r radd flaenaf yn cynnwys Technoleg Rithiol, gweithfannau unigol, a'r gallu i gofnodi gwaith ymarferol ar gyfer portffolios gwaith y prentisiaid.

Eu nod yw cynnig prentisiaethau 3 blynedd, gyda 36 o swyddi (12 o hyfforddeion ar y tro) yn cael eu cynnig. Maen nhw hefyd yn gweithio gyda Jemma Sheppard o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, o’r Tîm Cyflogadwyedd, ar fenter i ymgysylltu â'r bobl ydd wedi bod yn ddi-waith hirdymor ac i ddarparu llwybr i gyflogaeth. Mae prinder dybryd o staff medrus sy'n gweithio ym maes larymau tân ac maen nhw am ddarparu cyfleoedd cyflogaeth ddiriaethol i weithwyr ieuenctid ac oedolion sy'n newydd i'r diwydiant gan eu paru â darpar gyflogwyr trwy bartneriaethau. Mantais enfawr arall yw bod cyfranogwyr yn gymwys i gael taliad o £150 yr wythnos wrth hyfforddi.

Mae’r cwmni’n cydnabod y cynlluniau ar gyfer rhoi fframweithiau cymhwysedd newydd ar waith, a fydd yn gorfodi’r rhai sy’n cael eu cyflogi ar hyn o bryd yn y sector tân, i ennill cymhwyster wedi’i reoleiddio y gall FITA ei gynnig. Nid yn unig y maen nhw’n cynnig hyfforddiant ar y safle ond mae modd iddyn nhw gynnig hyfforddiant mewn cwmnïau a safleoedd unrhyw le yng Nghymru a gweddill y DU.

Mae FITA wedi derbyn £24,892 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Cafodd y grant hwn ei neilltuo ar gyfer Fire Industry Training Academy Ltd trwy ymyrraeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili o gronfeydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Cafodd y grant ei ddefnyddio i gynorthwyo â chostau ar gyfer caledwedd cyfrifiadurol a systemau monitor teledu cylch cyfyng sydd eu hangen i gynnal y rhaglen hyfforddi.

Mae Peter Bell wedi dweud “Bydd y cynllun prentisiaid yn creu swyddi medrus iawn, gyda chyflogau cychwynnol o dros £35,000 ar ôl cymhwyso. Rydyn ni’n hynod falch o allu creu'r ganolfan ragoriaeth hon, fel unigolion sy’n credu'n angerddol mewn diogelwch tân, rydyn ni’n gwybod bod cael technegwyr medrus sydd wedi'u hyfforddi'n llawn o bwys difrifol. Heb gymorth a help parhaus gan Dîm Busnes Cyngor Caerffili bydden ni wedi cael trafferth cyflawni ein nod.”

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, “Ardderchog gweld sut mae FITA yn gweithio i wella diogelwch tân yn y gymuned. Rydyn ni’n falch iawn o gydweithio gyda’r cwmni i gynnig cymorth ariannol tuag at wasanaeth allweddol.”


Ymholiadau'r Cyfryngau