News Centre

Y Cyngor yn cymryd camau i sicrhau bod toiledau cyhoeddus yn parhau i fod yn hygyrch i bawb

Postiwyd ar : 09 Mai 2023

Y Cyngor yn cymryd camau i sicrhau bod toiledau cyhoeddus yn parhau i fod yn hygyrch i bawb
Mae adroddiad diweddar yn tynnu sylw at ymdrechion Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i sicrhau bod toiledau cyhoeddus yn hygyrch i bawb.

Yn ystod cyfarfod a gafodd ei gynnal ar 19 Ebrill, adolygodd aelodau'r cabinet Strategaeth Toiledau Lleol Bwrdeistref Sirol Caerffili 2019 a chymeradwyo'r diwygiadau a'r Strategaeth wedi'i diweddaru ar gyfer 2023.

Roedd Strategaeth 2019 yn nodi nifer o opsiynau i’w hystyried i gynyddu darpariaeth toiledau yn lleol, sydd wedi’u hymgorffori’n llwyddiannus gan y Cyngor. Mae'r rhain yn cynnwys y Cyngor yn gweithio gyda thrydydd partïon i ailagor hen gyfleusterau toiled cyhoeddus Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn safleoedd bws Bargod, Rhisga, Coed Duon a Chaerffili. Mae'r Cyngor hefyd wedi gweithio gyda Chyngor Cymuned Gelligaer i ail-agor y cyfleusterau toiled yn y safleoedd bws yn Ystrad Mynach a Nelson.

Mae busnesau lleol a lleoliadau gofal iechyd wedi cael eu holi i weld a ydyn nhw’n barod i ganiatáu i’r cyhoedd ddefnyddio eu cyfleusterau nhw, gyda chyfanswm o 14 lleoliad yn rhoi caniatâd.

Mae sticeri logo toiled hefyd yn cael eu harddangos wrth fynedfeydd adeiladau priodol y Cyngor lle mae toiledau yn hygyrch, heb fynd i mewn i ardaloedd gwaith diogel, ac mae sticeri yn cael eu darparu i leoliadau partner i'w harddangos.

Dywedodd y Cynghorydd Philippa Leonard, Aelod Cabinet dros Gynllunio a Diogelu’r Cyhoedd, “Mae toiledau at ddefnydd y cyhoedd yn bwysig i bawb. Rydyn ni am sicrhau bod trigolion ac ymwelwyr yn gallu profi popeth sydd gan Gaerffili i’w gynnig gyda hyder y bydd cyfleusterau digonol ar gael iddyn nhw.”

Am restr lawn o doiledau cyhoeddus, ewch i: https://mapdata.llyw.cymru/layers/geonode:national_toilet_map
 


Ymholiadau'r Cyfryngau