Y Cyngor yn ceisio cymorth ychwanegol i fynd i'r afael â safle gwastraff cloddio
Postiwyd ar : 05 Mai 2023
Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan
Mae Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cytuno â galwadau gan y gymuned i Lywodraeth Cymru ddarparu cymorth pellach i awdurdodau lleol ddelio â safleoedd gwastraff halogedig.
Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn rheoli materion parhaus sy'n gysylltiedig â hen safle Chwarel Tŷ Llwyd ger pentref Ynys-ddu.
Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, “Fel Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, rwy’n sefyll ochr yn ochr â’r gymuned i geisio datrys y pryderon parhaus sydd gan drigolion am y deunydd sydd wedi'i adael ar safle Chwarel Tŷ Llwyd yn y gorffennol.
Mae halogiad y tir yn dyddio’n ôl dros 50 mlynedd ac mae’r Cyngor wedi etifeddu’r broblem hirsefydlog hon, ynghyd â’r her sylweddol o reoli’r safle’n effeithiol, yn enwedig yn ystod cyfnodau o law trwm.
Rwy’n rhannu pryderon trigolion am yr effaith ar y gymuned a’r amgylchedd lleol, ond hoffwn i sicrhau pawb bod y Cyngor yn parhau i weithio’n agos gyda’n rheolyddion a’n bod ni'n cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaethau a chanllawiau perthnasol.
Byddwn i'n croesawu ymyriad cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig os yw’n arwain at gymorth a chyllid ychwanegol i’n helpu ni ac awdurdodau lleol eraill i ymdrin ag etifeddiaeth ein gorffennol diwydiannol.”
Yr wythnos hon, cefnogodd Pwyllgor Craffu’r Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cyngor Rybudd o Gynnig gan aelodau lleol yn gofyn i’r Cyngor ysgrifennu at Lywodraeth Cymru am ragor o gymorth. Roedd y Rhybudd o Gynnig fel a ganlyn:
“Gofynnwn ni i’r pwyllgor hwn ofyn i’r Cyngor ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i gefnogi ein cais i Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, am Ymchwiliad Cyhoeddus Annibynnol ac i ymchwilio a hwyluso cyllid ar gyfer safle Chwarel Tŷ Llwyd yn unol â Rhan Dau o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd.”
Bydd hyn nawr yn cael ei ystyried mewn cyfarfod y Cyngor llawn yn yr haf i geisio cytundeb ffurfiol gan gynghorwyr y Cyngor.